Grŵp canu harmoni clos oedd Hogia Llandegai a sefydlwyd yng nghyfnod y sgiffl yn y 1950au ac a fu’n perfformio am dros ddeugain mlynedd.

Hogia Llandegai
Clawr albwm Hogia Llandegai o 1968.
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
Clawr albwm Goreuon

Tyfodd yr Hogia allan o’r wythawd Criw Sgiffl Llandegai a sefydlwyd yn 1957 ac a gynhwysai Neville [Nev] Hughes (gitâr a llais, cyflwynydd), Ronald Wyn [Ron] Williams (prif leisydd) ac Owen Glyn [Now] Jones (organ geg a llais). Ymunodd Roy Astley (gitâr a llais) yn ddiweddarach cyn i’r pedwarawd ddechrau recordio caneuon o dan yr enw Hogia Llandegai yn ystod y 1960au.

Fel y Bois a’r Hogia eraill, roedd Hogia Llandegai yn dilyn traddodiad hir y Noson Lawen, gan ymhyfrydu mewn hiwmor a chyflwyno cymysgedd o gymeriadau lliwgar a geiriau cartrefol. Dechreuodd yr aelodau gydganu yng Nghôr Talgau. Gan fod y côr eisiau cynnig adloniant mwy amrywiol, penderfynodd wyth ohonynt brynu offerynnau rhad er mwyn perfformio caneuon sgiffl (a oedd yn boblogaidd yng ngwledydd Prydain ar y pryd): cist de, pren golchi ac organau ceg. Yn ogystal â’u perfformiadau gyda Chôr Talgau roeddynt hefyd yn derbyn gwahoddiadau i berfformio fel grŵp ar wahân gan ddechrau ym mis Ebrill 1957.

 
Clawr albwm Canu Yn Y Gwaed

Gan nad oeddynt yn gerddorion wedi’u hyfforddi’n ffurfiol, roeddynt yn dra dibynnol ar ganeuon gwerin Cymreig, a hefyd ar ganeuon Saesneg heb eu cyfieithu, er enghraifft caneuon poblogaidd Lonnie Donnegan fel ‘My Old Man’s a Dustman’. Ar y cychwyn, byddent yn teithio ar fysiau cyhoeddus i’w cyngherddau gan gario’u hofferynnau ar eu cefnau. (Nid oedd y gydnabyddiaeth ariannol a gaent ond prin ddigon i dalu am y tocynnau bws.) Roedd i sgetsys le canolog yn eu perfformiadau, a bywiogid y cyfan gan allu Now fel chwibanwr a dynwaredwr synau anifeiliaid. Roedd yr un nodweddion i’w cael yn eu perfformiadau teledu a daeth llwyddiant mawr i ran Criw Sgiffl Llandegai rhwng 1957–64.

Roedd cyfnod sgiffl wedi hen ddod i ben yng ngwledydd Prydain erbyn 1964 gyda cherddoriaeth beat y Beatles a’r Rolling Stones yn prysur feddiannu’r tonfeddi radio. Roedd Criw Sgiffl Llandegai yn ymwybodol o’r newidiadau hyn a theimlent mai priodol oedd dwyn y criw i ben ar ôl cyfnod hir o lwyddiant. Wedi rhai misoedd, daeth pedwar o’r Criw Sgiffl ynghyd unwaith eto ar gyfer ymddangosiad ar y rhaglen deledu Hob y Deri Dando, ac fel Hogia Llandegai bu iddynt barhau i berfformio o 1965–73. Yn ystod y cyfnod hwn y recordiwyd eu holl senglau.

Yn 1971 dathlodd Hogia Llandegai eu milfed cyngerdd ym Mhlaza Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1973, perfformiwyd eu cyngerdd olaf yn yr un man. Ond, rhyw bum mlynedd wedi hynny, cawsant wahoddiad gan I. B. Griffith i ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979 ac fe arweiniodd y cyngerdd hwnnw at gyfnod pellach o berfformio. O neuaddau bach y gogledd i stiwdios teledu Caerdydd ac i Bafiliwn Pontrhydfendigaid, cyfrannodd Criw Sgiffl a Hogia Llandegai at gyfnod pwysig yn natblygiad canu pop Cymraeg, ac yn ôl adolygiad yn y Rhyl and Prestatyn Gazette yn 1969, roedd caneuon megis ‘Defaid William Morgan’ yn cyfleu ‘hiwmor y Cymro gwledig ar ei orau’ (Wyn 2002, 54).

Manylion aelodau

golygu
  • Ronald Wyn Williams: (13 Medi 1929 – 29 Ebrill 2005). Bu farw cyn ei dderbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2005.[1]
  • Roy Astley: (23 Medi 1933 – 15 Ionawr 2025). Yn briod â Glenda, roedd ganddynt ddau o blant.[2]
  • Owen Glyn Jones: (30 Medi 1935 – 24 Awst 2004)[3][4]
  • Neville Hughes (ganwyd 29 Hydref 1937). Yn briod ac Angharad ac yn byw yn Methesda.[5]

Gweler hefyd

golygu

Disgyddiaeth

golygu
  • Hogia’ Llandegai (‘Trên Bach yr Wyddfa’) (EP) (Welsh Teldisc PYC5433, 1966)
  • Hogia’ Llandegai (‘Anti Henrietta o Chicago’) (EP) (Teldisc PYC5434, 1967)
  • Hogia’ Llandegai (‘Mynd i’r Fan a’r Fan’) (EP) (Cambrian CEP426, 1968)
  • Hogia’ Llandegai (‘Elen’) (EP) (Teldisc PYC5435, 1968)
  • Caneuon Gorau (Cambrian CLP582, 1968)
  • Hogia Llandegai (‘Mi Ganaf Gân’) (EP) (Cambrian CEP453, 1969)
  • Bangor ’71 (sengl) (Sain 14, 1971)
  • Hogia Llandegai (‘Mae Pawb yn Chwarae Gitâr’) (sengl) (Sain 28, 1972)
  • Goreuon Hogia Llandegai (Sain SCD2016, 1992)
  • Canu yn y Gwaed (Sain SCD2074, 1994)
  • Y Goreuon Cynnar (Sain SCD2524, 2006)

Yn ymddangos ar:

  • Y Bois a’r Hogia (Sain SCD 2578, 2010)

Llyfryddiaeth

golygu
  • Neville Hughes, Hogia Llandegai: Y Llyfr (Neville Hughes, 1996)
  • Hefin Wyn, Be Bop a Lula’r Delyn Aur (Talybont, 2002)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gorsedd: Anrhydedd i Gymry" (yn Saesneg). 2005-07-01. Cyrchwyd 2025-01-31.
  2. "Click here to view the tribute page for Roy ASTLEY". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-31.
  3. "Colli Now Hogia Llandegai" (yn Saesneg). 2004-08-24. Cyrchwyd 2025-01-31.
  4. "BBC - Gogledd Orllewin - Teyrnged i Now Hogia Llandegai". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-01-31.
  5. "Dewi Llwyd ar Fore Sul - Neville Hughes - Gwestai Penblwydd - BBC Sounds". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-31.
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Hogia Llandegai, gan Sarah Hill/Wyn Thomas ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.