Eurovision: Your Country Needs You
Eurovision: Your Country Needs You yw'r enw ar gyfres deledu 2009 y BBC a ddarlledir yn flynyddol er mwyn dewis cân Prydain ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cafwyd nifer o raglenni tebyg cyn y sioe hon, gan gynnwys Festival of British Popular Song, Eurovision Song Contest British Heats, A Song for Europe, Great British Song Contest, Eurovision: Making Your Mind Up a Eurovision: Your Decision.
Eurovision: Your Country Needs You | |
---|---|
Teitl sgreen Eurovision: Your Country Needs You | |
Cyflwynwyd gan | Graham Norton |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 1 |
Nifer penodau | 5 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 4 x 60 munud ac 1 x 70 munud (sef y sioe derfynol) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC |
Fformat llun | PAL (576i), 16:9 |
Darllediad gwreiddiol | 29 Gorffennaf 2006 – 16 Medi 2006 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Y blynyddoedd cynnar
golyguMae fformat y sioe, a'r modd y dewisir yr enillydd wedi newid dros y blynyddoedd. Yn y blynyddoedd cynnar, cafwyd rowndiau cyn-derfynol, gyda rheithgorau rhanbarthol ledled y wlad yn dewis y gân fuddugol. Defnyddiwyd y fformat hwn tan 1960. Ym 1961, dewiswyd yr enillydd gan reithgor o 14o o bobl, ond o 1962-63, dychwelodd y rheithgorau rhanbarthol. Gan amlaf, gwahoddwyd cantorion gan y BBC i berfformio cân roeddent yn hoffi o'r rhestr fer a oedd ganddynt. Roedd cantorion enwog ymysg y bobl a oedd eisiau cynrychioli'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys Petula Clark, Lita Roza, Anne Shelton, Frank Ifield, Ronnie Hilton, Jane Morgan a David Hughes, ond chafodd yr un ohonynt eu dewis i fynd drwyddo i'r rownd derfynol. Ar ddechrau'r 1960au, dechreuodd gwmnïau recordiau ddod ynghlwm â'r broses am y tro cyntaf a chyflwynasant ganeuon gan eu hartistiaid eu hunain. Arweiniodd hyn at ganeuon llwyddiannus i Craig Douglas, Karl Denver, Jackie Lee, Kenny Lynch, Vince Hill a Ricky Valance, ond unwaith eto, ni aeth yr un ohonynt drwodd i rownd derfynol Eurovision.
Enillwyr
golyguA Song for Europe (1957–1995)
golyguThe Great British Song Contest (1996–1999)
golyguBlwyddyn | Artist | Cân | Safle yn siart y DU |
---|---|---|---|
1996 | Gina G | Ooh Aah... Just a Little Bit | 1 |
1997 | Katrina and the Waves | Love Shine a Light | 3 |
1998 | Imaani | Where Are You? | 15 |
1999 | Precious | Say It Again | 6 |
A Song for Europe (2000–2003)
golyguBlwyddyn | Artist | Cân | Safle yn siart y DU |
---|---|---|---|
2000 | Nicki French | Don't Play That Song Again | 34 |
2001 | Lindsay | No Dream Impossible | 32 |
2002 | Jessica Garlick | Come Back | 13 |
2003 | Jemini | Cry Baby | 15 |
Eurovision: Making Your Mind Up (2004–2007)
golyguBlwyddyn | Artist | Cân | Safle yn siart y DU |
---|---|---|---|
2004 | James Fox | Hold On to Our Love | 13 |
2005 | Javine Hylton | Touch My Fire | 18 |
2006 | Daz Sampson | Teenage Life | 8 |
2007 | Scooch | Flying the Flag (for You) | 5 |
Eurovision: Your Decision (2008)
golyguBlwyddyn | Artist | Cân | Safle yn siart y DU |
---|---|---|---|
2008 | Andy Abraham | Even If | 67 |
Eurovision: Your Country Needs You (2009)
golyguBlwyddyn | Artist | Cân | Safle yn siart y DU |
---|---|---|---|
2009 | Jade Ewen | It's My Time[1] | 27 |
Cyflwynwyr
golygu- David Jacobs: 1957, 1960, 1962 - 1966
- Pete Murray: 1959
- Katie Boyle: 1961
- Rolf Harris: 1967
- Cilla Black: 1968, 1973
- Michael Aspel: 1969, 1976
- Cliff Richard: 1970 - 1972
- Jimmy Savile: 1974
- Lulu: 1975
- Terry Wogan: 1977 - 1996, 1998, 2003 - 2008
- Dale Winton: 1997
- Ulrika Jonsson: 1999
- Katy Hill: 2000 - 2001
- Christopher Price: 2002
- Claire Sweeney: 2002
- Gaby Roslin: 2004
- Natasha Kaplinsky: 2005 - 2006
- Fearne Cotton: 2007
- Claudia Winkleman: 2008
- Graham Norton: 2009
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ United Kingdom: Jade wins Your Country Needs You Archifwyd 2012-02-07 yn y Peiriant Wayback Alasdair Rendall. 2009-01-31. Oikotimes. Adalwyd ar 2009-01-31