Tanddaearol (drama)
Drama lwyfan gan Angharad Tomos yw Tanddaearol. Llwyfannwyd y ddrama gan gwmni theatr Hwyl a Fflag ym 1992. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991.[1]
Dyddiad cynharaf | 1992 |
---|---|
Awdur | Angharad Tomos |
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Hwyl A Fflag |
Genre | Drama Gymraeg |
Disgrifiad byr
golyguSut mae gwarchod cymuned? Oes perygl i ni sicrhau parhád llinach ar ddarn o dir gan esgeuluso troslwyddo'r cof?[2]
"Lleolir y ddrama yn festri Bethania M.C., Pant-glas a hithau'n brynhawn y cyfarfod pregethu.", yn ôl Dewi Davies - adolygydd y cynhyrchiad yn Barn, (Mawrth 1992).[3]
"Mae'r adeilad yn llaith a llwm ac nid yw'r boelar yn gweithio. Yn y festri mae Annie, gwraig sy'n tynnu am ei deugain, yn paratoi'r te. Daw gŵr o'r enw Idris yno ac yn raddol datgelir y cariad a fu rhyngddynt, y baban a erthylwyd wedi i Annie wrthod Idris a'r ffaith i Idris ei alltudio ei hun gan adael ei dad gweddw. Bymtheng mlynedd yn ddiweddarach daeth yn ôl, ei dad wedi'i gladdu ac Esgair Ucha', y fferm fu'n gartref iddo, wedi ei gwerthu ar ôl bod yn eiddo i linach Richard Tomos am dri chan mlynedd. Y tu hwnt i'r llen sy'n ganolbwynt y set y mae Fo a Hi yn y byd tanddaearol. Down i ddeall mai Richard Tomos yw'r gŵr ac mai'r ferch erthylwyd yw'r Hi. Petai'r ferch dienw wedi ei geni byddai Richard Thomas yn daid iddi. Cyn diwedd y ddrama mae'r tad marw yn cyfathrebu efo'i fab Idris a daw Annie i fedru wynebu'r Hi sy'n ferch bymtheg oed heb erioed ei geni."[3]
Cefndir
golyguCymeriadau
golygu- Annie
- Idris
- Fo
- Hi
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama gan Hwyl A Fflag ym 1992. Cyfarwyddwr Wyn Williams; cynllunydd John Jenkins; goleuo Bobi Jones; gwisgoedd Bet Huws; cast:
- Annie - Siân Wheldon
- Idris - Dewi Rhys
- Fo - Idris Morris Jones
- Hi - Judith Humphreys
"Doedd hi ddim bob amser yn ddrama hawdd i'w dilyn a'i deall," ebe Dewi Davies yn Barn (Mawrth 1992).[3]
" Er imi grybwyll fod nifer o elfennau trwsgl yn y cynhyrchiad, yn yr actio, y cyfarwyddo a'r ysgrifennu, yr oedd cnewyllyn yr hyn y ceisid ei gyfleu yn afaelgar a gwreiddiol, yn her i'r dychymyg a'r meddwl. Efallai fod pobl yn disgwyl drama amlwg wleidyddol gan Angharad Tomos, i gyffroi teimladau er mwyn galw am ddeddf eiddo neu ddeddf iaith. Beth gawsom ni oedd drama a ymddangosai yn gyfriniol a dwfn a chymhleth ond yn allwedd, efallai, i ddeall sylfaen yr argyhoeddiad sy'n galw am weithredu i arbed cenedl rhag difancoll."[3]