Gwladwriaeth yn Nwyrain Affrica oedd Tanganica[1] a enillodd annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig ar 9 Rhagfyr 1961 dan statws un o deyrnasoedd y Gymanwlad. Ynghynt yr oedd dan reolaeth Brydeinig fel Tiriogaeth Tanganica, sef tiriogaeth ymddiriedol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1961 a mandad Cynghrair y Cenhedloedd o 1922 i 1946, a chyn hynny yr oedd yn wladfa Almaenig. Daeth yn weriniaeth ar 9 Rhagfyr 1962, gan aros yn aelod o'r Gymanwlad. Unodd Tanganica â Gweriniaeth Pobl Sansibar a Pemba ar 26 Ebrill 1964 i ffurfio Gweriniaeth Unedig Tanganica a Sansibar, a elwir heddiw yn Weriniaeth Unedig Tansanïa.

Tanganica
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLlyn Tanganica Edit this on Wikidata
PrifddinasDar es Salaam Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Rhagfyr 1962 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
ArianEast African shilling, rupee Dwyrain Affrica Edit this on Wikidata
Baner Tanganica

Julius Nyerere oedd Prif Weinidog Tanganica yn ystod ei blwyddyn gyntaf o annibyniaeth, ac yna'n Arlywydd y wlad pan ddaeth yn weriniaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [Tanganyika].
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.