Tangwystl
Proffwydes neu ddaroganwraig o Gymraes oedd Tangwystl (fl. tua chwarter olaf y 11g). Fe'i cofir am ei phroffwydoliaeth yn darogan coroni Gruffudd ap Cynan yn frenin Teyrnas Gwynedd.
Tangwystl | |
---|---|
Ganwyd | 11 g |
Cefndir
golyguRoedd hi'n perthyn i dylwyth Gruffudd ap Cynan ac yn wraig i Lywarch Olbwrch, un o swyddogion llys y brenin Gruffudd ap Llywelyn. Roedd Gruffudd ap Cynan, a Chymry eraill, yn alltud yn Iwerddon ond yn ysu am ddychwelyd i Wynedd.[1]
Daroganes
golyguCeir yr unig gyfeiriad ati yn Hanes Gruffudd ap Cynan. 'Gwraig brudd' (doeth) oedd hi. Daeth at Gruffudd wedi iddo lanio ar Ynys Môn o Ddulyn yn 1075 i geisio adennill teyrnas Gwynedd o ddwylo'r Normaniaid. Dydi'r Hanes ddim yn cofnodi ffurf ei darogan, ond rhoddir ei chynnwys, sef ei bod yn proffwydo y byddai Gruffudd yn frenin cyn hir. Rhoddodd iddo ddau anrheg arbennig yn ogystal, sef y crys meinaf a gorau a mantell y brenin Gruffudd ap Llywelyn.[1]
Amhosibl dweud ai cerdd neu ddatganiad oedd y darogan; mae'n bosibl ei fod yn enghraifft o'r fath o ddatganiadau ysbrydoledig a gwyllt a ddisgrifir gan Gerallt Gymro wrth sôn am yr Awenyddion.[1]