Tȟatȟáŋka Íyotake
Pennaeth llwyth y Sioux yng Ngogledd America oedd Tȟatȟáŋka Íyotake (c.1834 - 15 Rhagfyr, 1890), a adnabyddir yn well dan ei enw Saesneg Sitting Bull. Roedd yn bennaeth llwyth y Hunkpapa, un o lwythi'r Sioux Lakota.
Tȟatȟáŋka Íyotake | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jumping Badger ![]() c. 1831 ![]() Afon Grand ![]() |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1890 ![]() o anaf balistig ![]() Dakota Territory ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | penadur, medicine man ![]() |
Swydd | penadur ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Tȟatȟáŋka Napsíca ![]() |
Priod | Light Hair, Four-Robes-Woman, Snow-on-Her, Seen-by-her-Nation, Scarlet Woman ![]() |
Plant | Crow Foot, son of Sitting Bull ![]() |
llofnod | |
![]() |

Arweiniodd Tȟatȟáŋka Íyotake y gwrthryfel yn erbyn ymlediad yr Unol Daleithiau yn y Gwastadiroedd Mawr yn yr 1870au. Roedd yn rhyfelwr craff a llwyddiannus a gadwodd y Farchoglu Americanaidd allan o diriogaeth'r Sioux am rai blynyddoedd. Uchafbwynt y rhyfela oedd Brwydr Little Bighorn lle gorchfygodd y lluoedd brodorol dan arweiniad Sitting Bull, y Cadfridog George Custer; lladdwyd Custer a'i filwyr i gyd yn y frwydr.
Wedi iddo dderbyn amnesti ymsefydlodd ar reservation yn Dakota ond fe'i lladdwyd yn ystod gwrthryfel arall yn 1890.