Tate Modern
Oriel genedlaethol ar gyfer celf fodern yw Tate Modern. Fe'i leolir yn Bankside, ar lannau afon Tafwys, yn Llundain, Lloegr.
![]() | |
Math | oriel gelf, corff cyhoeddus an-adrannol, amgueddfa genedlaethol ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Henry Tate ![]() |
Agoriad swyddogol | 11 Mai 2000 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Orielau Tate ![]() |
Lleoliad | Bankside ![]() |
Sir | Southwark ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 35,000 m² ![]() |
Gerllaw | Afon Tafwys ![]() |
Cyfesurynnau | 51.507595°N 0.099356°W ![]() |
Cod post | SE1 9TG ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Henry Tate ![]() |
Adeiladwyd yr oriel oddi mewn hen orsaf drydanol Bankside, a'i godwyd i gynlluniau gan Syr Giles Gilbert Scott rhwng 1947 a 1963 ac a gaeodd ym 1981. Agorodd i'r cyhoedd fel oriel yn 2000 wedi'r adnewyddiad gan y penseiri Herzog a de Meuron. Mae'n rhan o Oriel y Tate, sefydliad sydd hefyd yn gweinyddu tair oriel gelf arall yn Lloegr.
Yng nghasgliad Tate Modern ceir gweithiau celf rhyngwladol yn dyddio o 1900 hyd y presennol. Cynrychiolir symudiadau celf yn cynnwys Argraffiadaeth, Ciwbiaeth, Fauvisme, Dyfodoliaeth, Mynegiadaeth, Dada, swrealaeth, celf bop a chelf gysyniadol. Yn wahanol i'r arfer, ni ymddangosir y casgliadau yn gronolegol ond yn hytrach yn ôl eu thema.
Gwahoddir artist i arddangos gwaith yn yr neuadd wag a ddaliai'r tyrbin ynghynt, yn flynyddol ers 2000. Fel rheol y maent yn weithiau enfawr sydd yn denu llawer o sylw gan y wasg ac ymwelwyr. Bwriedir ehangu'r oriel mewn rhannau o'r adeilad a barhaodd fel gorsaf drydanol hyd yn ddiweddar; disgwylir agor y rhannau yma yn 2012.