Tatsfield
Pentref a phlwyf sifil yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, yw Tatsfield.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Tandridge. Saif i'r de-ddwyrain o Lundain, ar gyrion Llundain Fwyaf, ac yn agos at y ffîn rhwng Surrey a Caint.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Tandridge |
Poblogaeth | 1,894 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Surrey (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 13.36 km² |
Yn ffinio gyda | Biggin Hill |
Cyfesurynnau | 51.2989°N 0.0306°E |
Cod SYG | E04009594 |
Cod OS | TQ4157 |
Cod post | TN16 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,863.[2]
Ar ddechrau'r 14g, roedd Rhodri ap Gruffudd, brawd iau Llywelyn ap Gruffudd, yn dal maenor Tatsfield wedi iddo symud i Loegr. Etifeddwyd y faenor gan ei fab, Thomas ap Rhodri, ac mae'n bosibl mai yma y ganed ei fab ef, Owain Lawgoch. Fforffedodd Owain y faenor yn 1369 oherwydd ei fod yng ngwasanaeth Siarl V, brenin Ffrainc. Dywedir fod enwau Cymraeg ar rai strydoedd yma, e.e. "Maesmaur Road" (felly).
Bu'r diplomydd Donald Maclean yn byw yma o fis Rhagfyr 1950 hyd nes iddo ffoi i'r Undeb Sofietaidd ym mis Mai 1951.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Mai 2020
- ↑ City Population; adalwyd 26 Mai 2020