Pensaernïaeth y Dadeni

arddull bensaernïol

Arddull clasuraidd o bensaernïaeth a flodeuai yn Ewrop o'r 15g i'r 16g, fel rhan o gyfnod y Dadeni Dysg, yw pensaernïaeth y Dadeni. Fe'i rhagflaenwyd yn hanes pensaernïaeth gan y cyfnod Gothig, a fe'i olynwyd gan y Baróc. Yn ystod y Dadeni, ailddarganfuwyd celfyddydau'r hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid gan yr Ewropeaid, ac efelychwyd hyn yn arddulliau pensaernïol yr oes, yn bennaf oll ar sail trefn a chymesuredd. Daeth gwybodaeth penseiri'r Dadeni am bensaernïaeth glasurol o olion yr adeiladau hynafol, ac o'r Rhufeiniwr Vitruvius (a flodeuai yn y 1g CC), awdur y traethawd De architectura. Cafwyd adfywiad mewn ffurfiau Rhufeinig gan gynnwys y golofn, y bwa crwn, y fowt faril, a'r gromen. Bellach, cafodd y pensaer ei ystyried yn greawdwr yr adeilad, yn hytrach na'r adeiladwyr.

Cromen Eglwys Gadeiriol Fflorens
Tempietto, Chiesa di San Pietro in Montorio

Cychwynnodd yn Fflorens, un o ganolfannau'r adfywiad clasurol yn yr Eidal, ar ddechrau'r 15g, ac yn aml dywed taw cromen Eglwys Gadeiriol Fflorens, a ddyluniwyd gan Filippo Brunelleschi (1377–1446), sy'n nodi dechreuad pensaernïaeth y Dadeni. Hon oedd y gromen gyntaf o'i math i'w chodi ers yr oes glasurol, a chydnabyddir Brunelleschi fel y peiriannydd, cynlluniwr, a phen-arolygydd adeiladu modern cyntaf yn y Gorllewin. Prif ddamcaniaethwr pensaernïol y cyfnod oedd Leon Battista Alberti (1404–72), a ysgrifennodd ei draethawd De re aedificatoria (1452) ar sail syniadaeth yr hen Vitruvius. Cynlluniodd Alberti hefyd nifer o adeiladau, gan gynnwys y Palazzo Rucellai yn Fflorens a Basilica Sant'Andrea ym Mantova. Ail-fodelodd hefyd, yn yr arddull clasurol, y tu allan i Tempio Malatestiano yn Rimini. O Fflorens, lledaenodd arddulliau cynnar y Dadeni i ddinasoedd eraill yr Eidal erbyn diwedd y 15g. Dygwyd pensaernïaeth yr Uchel Ddadeni (tua 1500–20) i'r amlwg gan Donato Bramante (1444–1514) yn Rhufain gyda gogoniant Basilica Sant Pedr a'r Tempietto yn Chiesa di San Pietro in Montorio. Nodweddir Darddulliaeth y Dadeni diweddar (tua 1520–1600) gan dro at gymhlethdod a newyddwch yn hytrach na chytgord a threfn glasuraidd yr Uchel Ddadeni.[1] Yn y cyfnod diweddar ysgrifennwyd llu o draethodau ar bwnc damcaniaeth gan benseiri megis Sebastiano Serlio (1474–1554), Giacomo da Vignola (1507–73), ac Andrea Palladio (1508–80).

Y Quattrocento golygu

Cychwynnodd y Dadeni Dysg Cynnar, neu'r cyn-Ddadeni, yn yr Eidal yn y 14g (y Trecento), a blodeuai ym meysydd celf a llenyddiaeth. Ni chafodd ddylanwad ar bensaernïaeth nes dechrau'r 15g (y Quattrocento), y ganrif sydd yn gyfystyr â phensaernïaeth y Dadeni Cynnar. Nodir y cyfnod hwn drawsnewidiad sylweddol rhwng y dull Gothig canoloesol ac egwyddorion clasurol yr hen Roegiaid a Rhufeiniaid. Ceisiai penseiri'r Quattrocento adfer delfrydau'r byd clasurol—cytgord, cymesuredd, a chyfartaledd—yn eu dyluniadau, a ffasiynu ffordd gytbwys a dyn-ganolog o bensaernïo. Ysgogwyd y dull newydd gan ailddarganfyddiad De architectura, traethawd hynafol Vitruvius, gan Poggio Bracciolini yn llyfrgell Abaty Sant Gall ym 1414, gan gyflwyno i ysgolheigion y Dadeni yr unig ffynhonnell ysgrifenedig wreiddiol am bensaernïaeth y Rhufeiniaid. Trwy ddarllen Vitruvius, yn ogystal ag archwilio olion yr adeiladau hynafol a oedd yn dal i sefyll ar draws Ewrop, daethant i ddeall egwyddorion a rheolau clasurol. Un o brif daliadau'r adfywiad oedd cymesuredd geometrig a chytgord rhwng y bod dynol a'r adeilad, gan greu drefn hardd ac ymarferol gydag amgyffred eglur o ofod a chrynswth yr adeilad, yn wahanol i gynlluniau cymhleth y dull Gothig. Dylanwadwyd ar ddamcaniaeth bensaernïol gan ddyneiddiaeth y Dadeni, a bwysleisiai gwerth a gallu'r bod dynol. Ceisiai'r pensaer adlewyrchu'r raddfa ddynol yn ei ddyluniad, ac i greu gofod a oedd yn gysurus ac yn addas ar gyfer pobl, gan gydbwyso celfyddyd a phwrpas yr adeilad.

Adferwyd nifer o elfennau ac addurniadau clasurol gan benseiri'r Dadeni Cynnar, gan gynnwys talogau, atgolofnau, cornisiau, a ffrisiau. Yr oedd y golofn yn elfen hollbresennol o bensaernïaeth y Dadeni, a daeth yr hen ddulliau Dorig, Ïonig, a Chorinthaidd, yn gyffredin mewn talwynebau, colofnfeydd, a phendistiau. Mabwysiadwyd motiffau a themâu clasurol wrth addurno colofnau, capanau, ac elfennau pensaernïol eraill, megis dail acanthws, garlantau, a ffigurau mytholegol.

Y cynllun canolog oedd sail dyluniadau pensaernïol y Dadeni. Defnyddiodd y pensaer gylch, croes, neu siâp hafalochrog fel ffurf sylfaenol ei gynllun, i greu trefn gymesur ar ei adeilad. O'r cychwyn, yn sgil camp Brunelleschi yn Fflorens, y gromen oedd un o'r nodweddion amlycaf. Ysbrydolwyd yr elfen hon gan gryndo'r Pantheon yn Rhufain, a defnyddiwyd cromenni i goroni eglwysi, palasau, ac adeiladau cyhoeddus. Dylanwadwyd ar bensaernïaeth hefyd gan gelf y Dadeni Cynnar, yn enwedig persbectif llinol a arloeswyd gan arlunwyr i gynrychioli dyfnder a phellter. Defnyddiwyd yr un dechneg gan benseiri, er enghraifft drwy ddylunio talwynebau a gofodau mewnol ar hyd echel ganolog, gydag elfennau yn encilio i'r cyrion pellaf, i amlygu dyfnder yr adeilad.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Renaissance architecture. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mai 2023.