Ted Breeze Jones
Athro, naturiaethwr ac awdur o Gymru oedd Ted Breeze Jones (8 Mawrth 1929 – 3 Gorffennaf 1997).[1]
Ted Breeze Jones | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1929 Manod |
Bu farw | 3 Gorffennaf 1997 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, llenor |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Ted yn ardal Cae Clyd, Manod o Flaenau Ffestiniog. Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed a bu farw ei dad yn fuan wedyn. Symudodd rhyw filltir i fyny'r ffordd i Flaenau Ffestiniog, lle cafodd ei fagu gan ei fodryb a'i ewythr.[2]
Addysg
golyguMynychodd yn blentyn Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiog. Yn 1946 aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Normal, Bangor. Bu yno hyd 1948, pryd yr ymunodd â’r Llu Awyr i gwblhau ei ddwy flynedd o "wasanaeth cenedlaethol".
Gyrfa
golyguCychwynodd ar ei yrfa fel athro, gan ddechrau am ychydig yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog, cyn symud i ysgol gynradd Trawsfynydd am ddwy neu dair blynedd. Oddi yno symudodd i Ysgol y Bechgyn, Maenofferen; ac yna, ym 1963, i ysgol gynradd y Manod. Yno y bu nes iddo ymddeol, yn gynnar, tua 1983. Priododd ag Anwen yng nghapel y Wesleaid, Talsarnau ym 1974 a symudasant i fyw i Landecwyn, ger Talsarnau.
Roedd Ted yn un o naturiaethwyr amlycaf Cymru gan ymddangos yn gyson ar y cyfryngau. Roedd hefyd yn adarydd, ffotograffydd, darlithydd ac awdur. Roedd yn aelod o banel rhaglen BBC Radio Cymru Seiat Byd Natur a chyfrannodd i nifer o raglenni teledu.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 68 mlwydd oedd, daeth criw o'i ffrindiau ynghyd â phenderfynu sefydlu Cymdeithas Ted Breeze Jones, er budd adar a bywyd gwyllt er cof amdano ac mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i fyd natur.
Dyddiadur
golyguFe gadwodd ddyddiadur[3] lle cofnododd ei anturiaethau adaryddol a'r bobl (dynion i gyd) o'r un anian ag o. Dyma un cofnod doniol a dadlennol o safbwynt naturiathol, o 1945 pan oedd yn 17 mlwydd:
30 Mawrth 1945: Pleser o’r mwyaf oedd gweld y “Brimstone Butterfly” i’r Domen Ludw [Trawsfynydd?]. Ceisiais ei ddal gyda badell ffrio [sic.] ond heb lwyddiant. Ni welais y glöyn yma o’r blaen. Sylwais ar y “Peacock” a’r “Tortoiseshell” yn mwynhau y tywydd tyner a gawsom yn ystod yr wythnos.
Yn ôl y rhannau o'r dyddiadur a godwyd hyd yma o'r papurau sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cryn syndod i'r rhai ohonom oedd yn ei adnabod fel person canol oed fel Cymro glân Cymraeg, yw darganfod mai yn Saesneg, a hynny'n Saeneg coeth iawn, y bu'n cadw ei ddyddiadur am ryw hyd o 1949 ymlaen. Patrwm tebyg sydd i'w weld yng ngwaith ei gyfaill T.G. Walker. Dylanwad oedd hyn mae'n debyg o Prydeindod Seisnig y cyfnol ôl-ryfel.
Llyfryddiaeth (dethol)
golygu- Anifeiliaid y Maes Hefyd (Gwasg Dwyfor, 1993)
- Golwg ar Kelt Edwards a'i Waith ([wasg Carreg Gwalch, 1994)
- Ted - Dyn yr Adar (Gwasg Gomer, 2000)
- Adenydd i'r Camera (Gwasg Dwyfor, 1996)
- Cynefin Gruff (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- Plu yn y Paent (Gwasg Dwyfor, 1994)
- Yli (darluniau gan Ted Breeze Jones) (Gwasg Dwyfor, 2003)
- Yma Mae 'Nghalon (darluniau gan Ted Breeze Jones) (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ted Breeze Jones - 'Dyn yr Adar'. Cymdeithas Ted Breeze.
- ↑ Dyn 'i fryd ar Gyfeillion pluog. , Daily Post, 7 Rhagfyr 2002. Cyrchwyd ar 28 Medi 2016.
- ↑ Dyddiadur Ted Breeze-Jones