Manod

Ardal tua hanner milltir i'r de o ganol tref Blaenau Ffestiniog, Gwynedd

Ardal tua hanner milltir i'r de o ganol tref Blaenau Ffestiniog, Gwynedd wrth droed mynydd y Manod Bach yw'r Manod. Mae'r ardal yn rhan o ward Teigl. Fel gweddill y Blaenau, codwyd Manod yn bennaf i gartrefu Chwarelwyr Llechi yn ystod y chwildro diwydiannol. Diwydiant arall o bwys yma oedd y Chwarel Ithfaen, neu'r Gwaith Sets, reit yng nghanol y Manod.

Manod
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.981786°N 3.929964°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Daearyddiaeth

golygu

Er bod nifer yn credu mai'r ffin rhwng Canol Tref Blaenau Ffestiniog a'r Manod yw'r toriad yn yr ardal drefol wrth ymyl Garej y Cambrian, y ffin mewn gwirionedd yw'r bont dros Afon Du-bâch, tua 50 metr i'r gogledd o Westy'r Manod. Dyma'r ffin hanesyddol rhwng dalgylchoedd Ysgol Manod ac Ysgol Maenofferen. Nid oes arwyddion ffordd i ddynodi eich bod yn cyrraedd y Manod, a dim ond un arwydd ffordd sy'n cynnwys yr enw 'Manod', ar ffordd osgoi yr A496. Nid yw Manod yn ymddangos ar nifer o fapiau chwaith, gan gynnwys map yr AA. Mae'n cael ei ddangos, yn hytrach, fel dau bentref bach o'r enw Bethania a Congl-y-wal. Dyma'r enwau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer wardiau Cyngor Ffestiniog. Nid yw'r enwau hyn yn cael eu defnyddio gan nifer o drigolion lleol, sy'n fwy tebygol o sôn am 'Top Manod' (o'r ffin gogleddol tan Gapel Bethesda / yr hen Waith Sets) a 'Gwaelod Manod' (o Gapel Bethesda i'r ffin ddeheuol). Mae'n debyg mai datblygiad mwy diweddar yw'r enw Manod yn sgil enw'r ysgol leol a'r brif ffordd sy'n rhedeg drwy'r ardal (Heol Manod). Ceir hefyd nifer o gymdogaethau llai fel Tyddyn Gwyn, Cae Clyd, Congl y Wal, Peniel, Penygwndwn ac Isfryn.

Mae cefnffordd de-gogledd yr A470 yn rhedeg ar hyd Heol Manod drwy ganol y rhan hon o Flaenau Ffestiniog.

Gwasanaethau

golygu

Mae'r ardal yn cael ei wasanaethu gan Ysgol Manod, sydd â bron i 100 o ddisgyblion. Mae un tafarn yma sef 'Gwesty'r Manod'. Dim ond un siop sydd yn y Manod ar hyn o bryd sef 'Debbie's Cake 'Ole'. Mae nifer o siopau yn yr ardal wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd yr ardal yn cael ei gwasanaethu gan saith o siopau tan ddiwedd yr 80au gan gynnwys, Swyddfa'r Post, Siop Bapur a Garej.

Manod yw cartref Clwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau, sy'n chwarae yn Cae Clyd.

Mae dau gapel yn y Manod sef Capel Bethesda (Methodistiaid) a Chapel Hyfrydfa (Annibynwyr). Yma hefyd y mae Eglwys Uniongred Holl Saint Cymru, sy'n rhan o'r Eglwys Uniongred Rwsiaidd.

Cyfeiriadau

golygu