Awdurdod unedol a bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Telford a Wrekin neu Telford a Din Gwrygon (Saesneg: Borough of Telford and Wrekin).

Telford a Wrekin
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
PrifddinasTelford Edit this on Wikidata
Poblogaeth188,871 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd290.3137 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.73°N 2.49°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000020 Edit this on Wikidata
GB-TFW Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Telford and Wrekin Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 290 km², gyda 179,854 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Swydd Amwythig i'r gogledd, y gorllewin a'r de, a Swydd Stafford i'r dwyrain.

Telford a Wrekin yn sir seremonïol Swydd Amwythig

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1998. Cyn hynny roedd yn ardal an-fetropolitan (dan yr enw The Wrekin) yn sir an-fetropolitan Swydd Amwythig, a ddiddymwyd yn ei thro yn 2009, a disodlwyd gan awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Rhennir yr awdurdod yn 29 o blwyi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Lleolir pencadlys yr awdurdod yn nhref newydd Telford. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Dawley, Madeley, Newport, Oakengates a Wellington.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 9 Ebrill 2021