Wellington, Swydd Amwythig
Plwyf sifil ac ardal faestrefol o dref newydd Telford yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Wellington.[1] Fe'i lleolir yn awdudod unedol Telford a Wrekin. Yn hanesyddol roedd Wellington yn dref ynddo'i hun, ond yn y 1960au cafodd ei hymgorffori yn nhref newydd Telford.
| |
Math |
tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Telford a Wrekin |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.7001°N 2.5157°W ![]() |
Cod SYG |
E04000947 ![]() |
Cod OS |
SJ651115 ![]() |
Cod post |
TF1 ![]() |
![]() | |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 21,352.[2]
Mae tref Wellington yn dyddio i'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, ond, gyda datblygaid tref newydd Telford yn y 1960au a'r 1970au, daeth yn rhan o'r dref newydd honno. Mae'r dref wedi cadw ei hen gyfaredd ei hun gyda gorsaf trenau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a llyfrgell Edwardaidd. Cafodd siarter fel tref farchnad ym 1244. Mae'r farchnad leol yno o hyd, yn agos i sgwâr y farchnad yng nghanol y dref. Mae gan y dref orsafoedd trenau a bysiau, ac mae traffordd yr M54 yn gyfagos. Poblogaeth Wellington yw 20,430 (Cyfrifiad 2001).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
- ↑ City Population; adalwyd 21 Rhagfyr 2020