Telor Cetti
rhywogaeth o adar
Telor Cetti | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Cettiidae |
Genws: | Cettia |
Rhywogaeth: | C. cetti |
Enw deuenwol | |
Cettia cetti (Temminck, 1820) |
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Cettiidae yw Telor Cetti (Cettia cetti). Mae'n nythu yn Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a rhannau o dde Asia cyn belled ag Affganistan. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, er bod yr adar yn y dwyrain yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Ceir Telor Cetti o amgylch gwlyptiroedd lle ceir llawer o dyfiant. Mae tua 13 – 14 cm o hyd, ac yn aderyn browngoch gyda llinell wen uwchben y llygad. Mae'r ddau ryw yr un fath. Ei brif fwyd yw pryfed.
Enwyd yr aderyn ar ôl y naturiaethwr Eidaleg Francesco Cetti. Dim ond yn gymharol ddiweddar y dechreuodd Telor Cetti nythu yng Nghymru.
Telor Cetti]]