Pencampwriaeth Agored Awstralia
Cystadleuaeth tenis flynyddol yw Pencampwriaeth Agored Awstralia. Cynhelir ym mhyfethnos olaf mis Ionawr, ac felly hwn yw'r cyntaf o dwrnameintiau'r Gamp Lawn yn y calendr tenis. Chwaraeir ar gyrtiau caled yn y Ganolfan Tenis Genedlaethol ym Mharc Melbourne, Melbourne, Awstralia. Cynhelir pencampwriaethau senglau dynion a menywod, parau dynion, menywod a chymysg, cystadlaethau i chwaraewyr ifainc a chwaraewyr mewn cadair olwyn, a gornestau cyfeillgar.
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon |
---|---|
Math | twrnamaint tenis |
Rhan o | Y Gamp Lawn |
Dechrau/Sefydlu | 1905 |
Lleoliad | Melbourne Park |
Yn cynnwys | AO Radio, Action Audio |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Rhanbarth | Victoria |
Gwefan | https://ausopen.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y dwrnamaint ar gyfer dynion gan Gymdeithas Tenis Lawnt Awstralasia (yn hwyrach, Awstralia) ym 1905. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf i fenywod ym 1922. Hyd 1987, symudodd y maes chwarae rhwng Melbourne, Sydney, Brisbane, ac Adelaide, a chwaraeid ar gyrtiau gwair. Penderfynwyd i gynnal y pencampwriaethau yn barhaol ym Mharc Flinders (a ailenwyd yn Barc Melbourne ym 1996) o 1988 ymlaen.[1] O 1988 hyd 2007 chwaraeid ar gyrtiau gwyrdd "Rebound Ace", ac ers 2008 defnyddir cyrtiau glas "Plexicushion".[2] Arena Rod Laver, Arena Hisene ac Arena Margaret Court yw'r tri phrif cwrt.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Australian Open (tennis tournament). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Awst 2016.
- ↑ (Saesneg) Australian Open court surface is speeding up, The Age (20 Tachwedd 2007). Adalwyd 8 Awst 2016.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol