Chwaraeon Cymru (Saesneg Sport Wales) yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon ac ymarfer corff yng Nghymru. Mae'n cyd-weithio gyda phartneriaid chwaraeon o bob math ac awdurdodau chwaraeon gyda'r amcan i hyrwyddo uchelgais yn yr ifanc ac hybu safonau pencampwyr yn genedlaethol.

Chwaraeon Cymru
Math
corff llywodraethu chwaraeon
Sefydlwyd4 Chwefror 1972
PencadlysCaerdydd
Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd. Pencadlys Chwaraeon Cymru
Athrofa Chwaraeon Cymru, Caerdydd. Pencadlys Chwaraeon Cymru

Chwareon Cymru yw prif gynghorwyr Llywodraeth Cymru ar ddosranni arian y Loteri Genedlaethol tuag at ariannu chwaraeon elît a llawr gwlad yng Nghymru.

Penodwyd Dr Paul Thomas yn Gadeirydd newydd y corff yn 2016 yn dilyn cyfnod Laura McAllister.[1] Ond saciwyd y Cadeirydd a'r is-Gadeirydd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2017 gan Lywodraeth Cymru oherwydd pryderon fod y corff wedi dod yn anhrefnus.[2]

Yn dilyn cyfnod o ansicrwydd wedi cyfnod dros dro fel Cadeirydd, pendodwyd Lawrence Conway fel y Cadeirydd newydd ar 3 Mehefin 2018.[3] Mae Lawrence Conway yn gyn-was sifil gyda Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru a Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd

Sefydlwyd Chwaraeon Cymru yn 1972. Mae ei phencadlys yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Ei chyllideb blyyddol yn 2018 oedd oddeutu £22m.

Mae Chwaraeon Cymru yn un o brif gefnogwyr Gemau Cymru, sef cystadlaethau athletau, gymnasteg a rhai chwaraeon eraill a drefnir yn flynyddol gan Urdd Gobaith Cymru.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://gov.wales/newsroom/culture-tourism-sport/2016/160322-sport-wales-chair/?skip=1&lang=cy
  2. "Sport Wales chairman and deputy sacked by Welsh Government". BBC News. 2017-03-29. Cyrchwyd 2017-03-30.
  3. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44352976