Mae tentaclau erotig (Saesneg: tentacle erotica) yn fath o bornograffi o Japan, sy'n Söoffilia dychmygol. Mewn hentai, fel arfer, mae'r genre yma'n cynnwys treisio merch gyda tentaclau anifail. Yr enw am hyn ydy Tentacle rape neu shokushu goukan(触手強姦).[1]

Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr, torlun pren erotig gan Hokusai sy'n dangos benyw noeth mewn cofleidiad rhywiol gyda dau octopws.

Mae erotica tentacle wedi ymledu o Japan i Unol Daleithiau America ac fel arfer wedi'i animeiddio, ond weithia mewn cylchgrawn.[2] Ar adegau mae o'n ymylu at fod yn ffetish furry.

Fe wnaeth anghenfilod gyda tentaclau ymddangos mewn erotica Japaniaidd cyn dyfeisio'r camera. Yr enghraifft enwogaf, mae'n debyg, ydy darlun o 1814 allan o'r nofel Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr gan Katsushika Hokusai, (葛飾北斎). Mae'n enghraifft o shunga, sef gwaith celf erotig o Japan. Ers hynny mae na lawer o artistiaid wedi ei gopio e.e. David Laity o Awstralia a Masami Teraoka. Yn y llun gwreiddiol, mae na ferch (pysgotwr perlau) a dau octapws, gyda'r mwyaf yn gweinlyfu'r ferch. Mae'r octopws lleiaf yn cyffwrdd ei cheg a'i bron chwith.

Ar y pryd, roedd tynnu llun pobl yn cael rhyw yn anghyfreithlon. Yn ôl un arlunydd a oedd yn creu lluniau tentaclau cyn deddfau sensoriaeth modern Japan, Toshio Maeda: “At that time pre-Urotsuki Doji, it was illegal to create a sensual scene in bed. I thought I should do something to avoid drawing such a normal sensual scene. So I just created a creature. His tentacle is not a penis as a pretext. I could say, as an excuse, this is not a penis; this is just a part of the creature. You know, the creatures, they don't have a gender. A creature is a creature. So it is not obscene - not illegal.” (Manga Artist Interview Series (Part 1),” 2002.

Animeiddiad

golygu

Yr anime cyntaf i'w greu oedd OVA Guyver: Out of Control (1986), a oedd yn addasiad o fanga gan Bio Booster. Ynddo gallwn weld milwr/merch o'r enw 'Valcuria' (llesiwyd gan Keiko Toda) yn cael ei amgylchynu gan uned o'r enw 'Guyver', sy'n gwthio ei dentaclau i mewn i agoriadau ei chorff.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Talerico, Danielle. “Interpreting Sexual Imagery in Japanese Prints: A Fresh Approach to Hokusai’s Diver and Two Octopi”, in Impressions, The Journal of the Ukiyo-e Society of America, Vol. 23 (2001).
  2. Ortega-Brena, Mariana (2009). "Peek-a-boo, I See You: Watching Japanese Hard-core Animation". Sexuality & Culture (New York: Springer New York) 13 (1): 17–31. doi:10.1007/s12119-008-9039-5. ISSN 1095-5143. http://www.springerlink.com/content/r1267467784j8710/fulltext.html. Adalwyd 2013-05-16.