Terariwm
Cynhwysydd neu amgaead a chanddi ochrau gwydr, ac weithiau caead ar ei ben, yw terariwm a ddefnyddir i dyfu planhigion neu i gadw anifeiliaid daeardrig a lled-ddaeardrig yn y tŷ. Math o fifariwm ydyw sydd yn dynwared ecosystem ar gyfer bywyd mewn amodau dan reolaeth. Gall fod yn addurniad neu'n lle i gadw planhigyn tŷ neu anifail anwes, yn fodd o epilio'r pethau byw sydd ynddo, neu er astudiaeth neu ymchwil gwyddonol.
Mae teraria ar gyfer planhigion fel arfer yn cynnwys tywod neu gerrig ar y gwaelod gydag haen uwch o bridd. Ymhlith y planhigion a ffyngau dyfir yn aml mewn terariwm ar dymheredd oer mae mwsogl, cen, gwaed-wraidd, marchredynen, fioledau, blodyn Mai, a blodau'r gwynt. Mae planhigion poblogaidd ar dymheredd poeth yn cynnwys begonias, crotonau, peperomiâu, y ffigysbren crwydrol, cnwpfwsogl, dreigwaed Sander, Aglaonema, gwallt y forwyn, a phlanhigion trofannol eraill.[1]
Defnyddir terariwm i gadw ymlusgiaid megis nadroedd a chrwbanod, ac infertebratau, yn enwedig pryfed, molysgiaid, ac arthropodau.
Gelwir fifariwm tebyg ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion y dŵr yn acwariwm.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Terrarium. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mehefin 2021.