Terfysg Caerdydd 2023
Cymmerodd terfysg le yn Nhrelái, Caerdydd, ar noson 22 a 23 Mai 2023. Anafwyd hyd at 12 o swyddogion Heddlu De Cymru; rhoddwyd cerbydau lluosog ar dân a rhoddwyd gwybod am ddifrod i eiddo.[1] Digwyddodd y terfysg yn sgîl marwolaeth dau blentyn 15 oed mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden toc ar ôl 6 o’r gloch. Enw'r ddau fachgen a laddwyd oedd Kyrees Sullivan (16 oed) a Harvey Evans (15 oed), y ddau yn fechgyn lleol.[2]
Math | terfysg |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trelái |
Gwlad | Cymru |
Cymmerodd terfysg le yn Nhrelái (maestref fawr yng ngorllewin Caerdydd). Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, nad oedd yr heddlu’n erlid y bechgyn ar y pryd. Dwedodd yr heddlu’n ddiweddarach, ar ôl i luniau teledu cylch cyfyng gael eu darganfod, eu bod wedi bod yn eu dilyn yn gynharach. Mae ymchwiliad wedi'i lansio i'r digwyddiad.
Arestiwyd ugain o bobl am gymryd rhan yn yr anhrefn. "Fel rhan o'r ymchwiliad hyd yn hyn, mae dros 290 o fideos o gamerâu corff heddweision wedi'u casglu," dwedodd yr heddlu.[3]
Ymateb
golyguCafwyd ymateb chwyrn i farwolaeth y dau fachgen, i'r torcyfraith wedyn, ymateb (neu gorymateb) yr heddlu, annilisrwydd atebion yr heddlu dros yr diwrnodau wedi'r digwyddiad yn enwedig cronoleg y digwyddiad a natur y cwrsio ar ôl y bechgyn,[4] a'r sefyllfa economaidd a chymdeithasol a achosodd neu a ychwanegodd at y digwyddiad ac agweddau'r heddlu at blismona'r maestref.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Erfyn am 'lonyddwch' wedi anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun". BBC Cymru Fyw. 24 Mai 2023. Cyrchwyd 25 Mai 2023.
- ↑ "Heddlu'r De yn cyhoeddi llinell amser ar ôl gwrthdrawiad Trelái". Golwg360. 25 Mai 2023.
- ↑ "Trelái: Arestio cyfanswm o 20 person ar ôl anhrefn". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2023. Cyrchwyd 6 Mehefin 2023.
- ↑ "Anhrefn Trelái: Heddlu'r De wedi derbyn fideo yn dangos fan y llu yn dilyn beic". Newyddion S4C. 23 Mai 2023.
- ↑ "Mark Drakeford yn addo cynllun cymunedol ar ôl 'trawma' Trelái". Newyddion S4C. 26 Mai 2023.