Terfysgoedd Nos White
Cyfres o ddigwyddiadau treisgar a ddechreuwyd oherwydd dedfryd byr Dan White am fradlofruddio Maer San Francisco George Moscone a Harvey Milk, arolygwr hoyw agored San Francisco oedd terfysgoedd nos White. Digwyddodd ar noson yr 21 Mai, 1979 yn San Francisco. Ynghynt y diwrnod hwnnw, cafwyd White yn euog o dynladdiad gwirfoddol, y dedfryd lleiaf posib am ei weithredoedd.
Rhes o bobl yn sefyll o flaen adeilad, gyda mwg yn codi tu ôl iddynt. | |
Math o gyfrwng | LGBT+ protest |
---|---|
Dyddiad | Mai 1979 |
Lleoliad | San Francisco |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd gan gymuned hoyw yn San Francisco hanes o wrthdaro hir dymor gydag Adran Heddlu San Francisco. Dwyshaodd statws White fel cyn-blismon ddicter y gymuned tuag at AHSF. Yn wreiddiol cafwyd gwrthdystiadau wrth i brotestwyr orymdeithio drwy ardal Castro yn San Francisco. Pan gyrhaeddodd y dorf Neuadd Dinas San Francisco, trodd y brotest yn dreisgar. Achoswyd cannoedd o filoedd o ddoleri o ddifrod i eiddo Neuadd y Ddinas ac ardaloedd cyfagos, yn ogystal ag anafiadau i heddweision a therfysgwyr.
Sawl awr ar ôl i'r terfysg ddod i ben, ymatebodd yr heddlu drwy gynnal cyrch ar far hoyw yn Castro o San Francisco. Ymosodwyd ar nifer o'r cwsmeriaid gan heddweision mewn gwisg terfysgoedd. Arestiwyd 24 o bobl yn ystod y cyrch, ac yn ddiweddarach daethpwyd a sawl achos yn erbyn AHSF.[1]
Yn y diwrnodau a ddilynodd, gwrthododd arweinwyr y gymuned hoyw ymddiheurio am ddigwyddiadau'r noson. Arweiniodd yr undod a'r cryfder hwn ymysg y gymuned hoyw at fwy o rym gwleidyddol, a gyrhaeddodd uchafbwynt pan ail-etholwyd Maer Dianne Feinstein y mis Tachwedd canlynol. Wrth ymateb i un o'i haddewidion etholiadaol, apwyntiodd Feinstein Pennaeth yr Heddlu a oedd yn gefnogol i hawliau hoywon. Cynyddodd y nifer o bobl hoyw a recriwtiwyd i'r heddlu a lleihaodd hyn y tensiwn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gorney, Cynthia (4 Ionawr, 1984). "The Legacy of Dan White; A stronger gay community looks back at the tumult". The Washington Post.