Sefydliad lle gellir yfed sy'n gwasanaethu yn gyfangwbl (neu'n bennaf) ar gyfer cwsmeriaid hoyw, lesbiad, deurywiol a thrawsrywiol ydy bar hoyw; defnyddir y term hoyw fel term cyffredinol i gynnwys yr holl gymuned LHDT. Arferai bariau hoyw weithredu fel canolbwynt diwylliant hoyw ac roeddent yn rhai o'r llefydd prin lle gallai pobl â thueddiadau rhywiol tuag at yr un rhyw gymdeithasu'n agored â'i gilydd. Ers dyfodiad gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol ar y rhyngrwyd a chynnydd mewn goddefgarwch a derbyniad o bobl hoyw, mae arwyddocad bariau hoyw yn y gymuned hoyw wedi lleihau rhyw faint.[1]

Bar hoyw
Mathbar, LGBTQ bar Edit this on Wikidata
Rhan ogay male culture Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir golygu

Fel gyda'r mwyafrif o dafarndai a bariau, amrywia maint bariau hoyw o rai bychan, pum sedd yn Tokyo i rhai enfawr, aml-lawr gyda nifer o ardaloedd gwahanol a mwy nag un dawnslawr. Weithiau cyfeirir at le mawr fel clwb nos, clwb, neu far, tra bod lleoliadau llai yn cael eu galw'n fariau neu dafarndai fel arfer. Yr unig nodwedd sy'n gwneud bar hoyw yn wahanol i unrhyw far arall yw'r cwsmeriaid. Tra bod nifer o fariau hoyw'n targedu'r cymunedau hoyw a/neu lesbiad, mae rhai (gan amlaf y rheiny sy'n hŷn ac wedi sefydlu eu hunain) bariau hoyw wedi troi'n hoyw, fel petai, yn sgîl natur eu cwsmeriaid dros gyfnod hir o amser.

Gwerthu alcohol ydy prif fusnes bariau a thafarndai hoyw. Fel nifer o sefydliadau na sy'n gwasanaethu cwsmeriaid hoyw, maent yn gweithredu fel man cyfarfod ac yn ganolbwynt i'r gymuned hoyw, lle'r nod ydy rhoi cyfle i'r cwsmeriaid sgyrsio ac ymlacio. Fel gyda chlybiau eraill, yn aml hysbysebir clybiau hoyw drwy ddosbarthu flyers ar y stryd neu mewn siopau a mannau hoyw-gyfeillgar eraill, yn ogystal ag mewn clybiau a digwyddiadau eraill. Yn aml mae gan glybiau lle gellir dawnsio systemau goleuo a fideo cyfoes, peiriannu niwl a phlatfformau uchel ar gyfer dawnsio. Weithiau, ceir dawnswyr proffesiynol (o'r enw dawnswyr go-go mewn cewyll neu ar bodiwm addurnedig. Mae gan rai fariau a chlybiau hoyw ystafelloedd cefn, sef ystafelloedd neu goridorau gyda golau gwan lle gall gweithgarwch rhywiol. Serch hynny, mae'r arfer hon bellach yn fwy anarferol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Businesses Facing Extinction in 10 Years Geoff Williams. 19 Medi 2007. Adalwyd ar 26 Tachwedd 2008
Chwiliwch am bar hoyw
yn Wiciadur.