Geirfa cerddoriaeth
(Ailgyfeiriad o Termau cerddorol)
Mae'r rhan fwyaf o dermau cerddorol yn eiriau estron neu fenthyceiriau, yn enwedig o'r Eidaleg.
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
A
golygu- Accelerando : cyflymu
- Adagio : araf iawn
- Ad lib(itum) : yn ôl ewyllys
- Affetuoso : yn dyner
- Agitato : yn gyffrous, yn gynhyrfus
- Allegretto : yn siriol, yn chwareus
- Allegro : yn fywiog
- Al segno : ewch yn ôl at y nod
- Andante : yn araf ac yn ddifrif
- Andantino : yn araf iawn
- Animato : yn fywiog
- Arpeggio : chwarae nodau cord yn olynol (nid gyda'i gilydd, fel dynwared telyn)
- A tempo : yn yr amser priodol
B
golyguC
golygu- Cadenza : addurniad ffansïol
- Calando : yn gwanhau ac yn arafu
- Cantabile : canu yn osgeiddig
- Cerdd dant : cerddoriaeth offerynnol
- Coda : bariau ychwanegol i orffen darn o gerddoriaeth (= cynffon)
- Con dolore : yn alarus, yn ofidus
- Con espressione : yn fynegiannol
- Con spirito : yn nwyfus
- Cord : cyfuniad o dri nodyn neu rhagor
- Cresc(endo) : cynyddu'r sain
Ch
golygu- Chord : 1. tant (offeryn cerdd) (yn Gymraeg)
2. cyfuniad o dri nodyn neu rhagor, cord (yn Gymraeg)
D
golygu- Da capo neu D.C. : o'r top, o'r dechrau
- Dim(inuendo) : lleihau'r sain, gostwng y sain
- Dolce : yn felys
- Doloroso : yn drist
E
golygu- Espressivo : yn fynegiannol
F
golygu- Finale : symudiad olaf darn o gerddoriaeth
- Fine : y diwedd
- Forte : yn groch
- Fortissimo : yn groch iawn
G
golygu- Gig : cyngerdd unnos
I
golygu- Impetuoso : yn fyrbwyll, yn wyllt
L
golyguM
golygu- Maestoso : yn urddasol
- Marcato : yn bwysleisiol
- Moderato : yn gymedrol gyflym
- Morendo : yn gwywo, yn edwino, y sain yn lleihau a marw
O
golygu- Obligato : darn angenrheidiol
P
golygu- Passionato : gyda theimlad
- Pathetique : yn dreunus, yn resynus
- Pianissimo : yn ddistaw iawn, yn dyner iawn
- Piano : yn ddistaw, yn dyner
- Poco : ychydig
- Prestissimo : yn gyflym dros ben
- Presto : yn gyflym iawn
R
golygu- Rallentando : yn arafu yn raddol
- Riff : cymal rhythmig (= rhythm + phrase)
S
golygu- Sostenuto : parhaus, gadael y nodyn i ganu ymlaen
- Staccato : yn amlwg ac ar wahan
T
golygu- Tessitura : lle fydd y rhan fwyaf o'r nodau mewn alaw (er mwyn penderfynu pa lais neu offeryn fydd yn ei ganu)
- Toccata : darn o gerddoriaeth i offeryn allweddell (offeryn llawfwrdd)
- Tranquillo : yn dawel
- Tremolo : chwarae nodyn llawer gwaith yn gyflym iawn (fel mandolin)
- Triad : cord gyda thri nodyn iddo
V
golygu- Vibrato : newid traw nodyn ychydig wrth iddo ganu (e.e. wrth ddigrynnu tant)
- Vigoroso : yn haerllug, yn feiddgar
- Vivace : yn fywiog
- Volti subito neu V.S. : trowch y ddalen yn gyflym