Mae Terminal Hoboken yn orsaf rhyngfoddol yn Hoboken, New Jersey, Yr Unol Daleithiau. Mae 9 llinell New Jersey Transit, 1 llinell Rheilffordd Metro-North, sawl gwasanaeth fws, gwasanaethau Rheilffordd Ysgafn Hudson-Bergen, gwasanaethau PATH ( Port Authority Trans Hudson) a fferiau NY Waterway. Mae dros 50,000 o bobl yn defnyddio’r terminal yn ddyddiol.

Terminal Hoboken
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf pengaead, gorsaf reilffordd harbwr Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol25 Chwefror 1907 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHoboken Rail Yard Edit this on Wikidata
SirHoboken, New Jersey Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
GerllawAfon Hudson Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.735°N 74.0275°W Edit this on Wikidata
Nifer y platfformau16 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethlleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA Edit this on Wikidata
Manylion
Y neuadd
Yr hen orsaf Lackawanna
Yr orsaf PATH
Adeiladu Terminal Hoboken ym 1907
Y terminal gorffenedig
Y terminal

Hanes golygu

Mae fferiau wedi defnyddio’r safle dros flynyddoedd maith. Dechreuwyd gwasanaeth fferi stêm ym 1811 gan John Stevens, dyfeisydd sy wedi sefydlu Hoboken.

Adeiladwyd twneli rheilffordd trwy Fryn Bergen er mwyn cyrraedd y fferiau dros Afon Hudson. Adeiladwyd y twnnel cyntaf gan Reilffordd Morris a Essex ym 1876, a phrydleswyd y llinell i Rheilffordd Delaware, Lackawanna, and Western. Cynlluniwyd y terminal gan Kenneth MacKenzie Murchison.[1] Adeiladwyd y terminal presennol ym 1907 gan Rhielffordd Delaware, Lackawanna a Western ac agorwyd ail dwnnel ym 1908. opened the second parallel tunnel in 1908. Mae’r New Jersey Transit yn dal i ddefnyddio’r ddau.[2] Estynnwyd Rheilffordd Hudson a Manhattan (y rheilffordd y daeth yn PATH) i’r terminal. Aeth y trên cyntaf o’r terminal ar 26 Chwefror 1908.

Ar un adeg, roedd ar lannau Hudson 5 terminal i deithwyr ar drenau. Erbyn hyn, mae Terminal Hoboken yr unig un sy’n goroesi. Prynwyd y terminal gan Conrail ym 1976, a prynwyd y terminal oddi wrthynt ym 1983 gan New Jersey Transit.

Stopiwyd y wasanaeth fferi i Manhattan is ar 22 Tachwedd 1967.[3] Ail-ddechreuodd y wasanaeth ym 1989, a daeth y llongau’n ôl i’r terminal ar 7 Rhagfyr 2011.[4]

Ailadeiladwyd tŵr y terminal rhwng 2005 a 2009. Ailadeiladwyd waliau’r terminal ym 2016.[5]

Roedd difrod sylweddol yn ystod Corwynt Sandy ar 29 Hydref 2012, gyda uchder 8 troedfedd o ddŵr yn nhwnneli PATH. Ail-agorwyd yr ystafell aros ym mis Ionawr 2013 er oedd gwaith trwsio dal i’w wneud.[6][7]. Ail-gychwynnodd rhai o’r trenau PATH i Manhattan ar 19 Rhagfyr, a’r gweddill erbyn 1 Mawrth 2013.[8][9][10]

 
Yr orsaf fysiau
 
Yr orsaf New Jersey Transit

Digwyddiadau nodweddiadol eraill golygu

Ym 1930, gyrrodd Thomas Edison y trên cyntaf i adael y terminal at Montclair, New Jersey. Roedd un o’r enghreifftiau cynnar o systemau tymherol canolog oedd yno.[11] Defnyddir yr orsaf ar gyfer ffilmiau, megis Funny Girl, Three Days of the Condor, Once Upon a Time in America, The Station Agent, The Curse of the Jade Scorpion,[12], Julie & Julia, Kal Ho Naa Ho a videos gan Rod Stewart (Downtown Train, (1990) ac Eric Clapton (Change the World, 1996".

Gwasanaethau golygu

Comudwyr golygu

Hoboken yw terminws ‘Adran Hoboken’ New Jersey Transit, yn y bôn cangenni’r hen reilffordd Lackawanna yn ngogledd New Jersey:-

Trafnidiaeth Gyflym golygu

PATH golygu

Mae’r wasanaeth PATH ar gael trwy’r dydd, bob dydd o 3 phlatfform tanddaearol i’r gogledd o’r platfformau ar y wyneb; mae 2 linell ar gael yn ystod y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, ac un arall gyda’r nos, a thros penwythnosau a gwyliau. Mae mynediad i’r platfformau ar gael o’r brif neuadd neu’r stryd, o dan yr orsaf fysiau.

Rheilffordd Ysgafn golygu

Mae Hoboken yn derminws y 2 linell Rheilffordd ysgafn Hudson-Bergen.Mae’r platfformau i’r De o drac 18 ac adeilad y terminal ac mae cysylltiad i Heol 14eg ar lan Afon Hudson.

 
Y fferi 'Frank Sinatra'

Fferi golygu

Mae fferiau Dyfrffordd Efrog Newydd yn mynd o’r terminal i Derminal Brookfield ac i Phier 11, Heol Wall yn ddyddiol, ac i Derminal Fferi Gorllewin Canol y Ddinas rhwng Llun a Gwener’.[13] Mae gan Derminal Hoboken le i 5 fferi.

Bysiau golygu

Mae bysiau New Jersey Transit yn defnyddio’r orsaf bws; mae le i 5 bws, ac mae 10 llinell bws.

Mae bws 87 yn mynd i Jersey City o lôn 1.[14][15]

Mae bws 126 yn mynd i Terminal Bws Awdurdod y Porthladd, Manhattan, ac yn defnyddio lonydd 2 a 3.[16]

Mae bysiau 85 a 89 yn mynd i American Dream Meadowlands yn Dwyrain Rutherford, New Jersey neu Nungesserso lôn 4.[17][18]

Mae bysiau 22,22X a 23 yn mynd i Weehawken neu [[Union City, New Jersey|Union City] o lôn 5 ac mae bysiau 63, 64 a 68 yn mynd o lôn 6 i Lakewood, Lincoln Harbor neu Old Bridge.[19][20]

Trenau a enwyd golygu

 
Y trên Phoebe Snow yn y Terminal, Medi 1965

Hyd at y 1960au, roedd y terminal us sy’n derbyn sawl trên bwysig y rheilffyrdd Lackawanna ac Erie Lackawanna, yn cyrraedd o Buffalo, Chicago a gogledd-ddwyrain Pennsylvania.

Enw Rheilffordd Pen taith yn dechrau yn gorffen
Atlantic Express a Pacific Express Rheilffordd Erie, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna Gorsaf reilffordd Dearborn,Chicago 1885, yn dechrau o Hoboken ym 1956 1965
Chicago Limited Rheilffordd Delaware, Lackawanna a'r gorllewin Buffalo, New York,yn mynd ymlaen at Chicago 1917 1941
Erie Limited Rheilffordd Erie, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna Gorsaf reilffordd Dearborn,Chicago 1929,yn dechrau o Hoboken ym 1956 1963
Lake Cities Rheilffordd Erie, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna Gorsaf reilffordd Dearborn,Chicago 1939, yn dechrau o Hoboken ym 1956 1970
Lackawanna Limited Rheilffordd Delaware, Lackawanna a'r gorllewin Buffalo, hyd at 1941 yn mynd ymlaen at Gorsaf reilffordd Heol LaSalle, Chicago 1901 1949
Merchants Express Rheilffordd Delaware, Lackawanna a'r gorllewin Gwesty Radisson, Scranton 1937 1959
New York Mail Rheilffordd Erie, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna a Rheilffordd Nickel Buffalo, yn mynd ymlaen at Gorsaf reilffordd Heol LaSalle, Chicago 1937 1968
New Yorker/Westerner Rheilffordd Erie, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna a Rheilffordd Nickel Buffalo, yn mynd ymlaen at Gorsaf reilffordd Heol LaSalle, Chicago 1936 1963
Trên Owl Rheilffordd Erie, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna a Rheilffordd Nickel Buffalo, yn mynd ymlaen at Gorsaf reilffordd Union St Louis 1919 1968
Phoebe Snow Rheilffordd Lackawanna, wedyn Rheilffordd Erie-Lackawanna a Rheilffordd Nickel Buffalo 1949 1966
Pocono Express Rheilffordd Delaware, Lackawanna a'r gorllewin Buffalo 1936 1965
Scrantonian Rheilffordd Delaware, Lackawanna a'r gorllewin Gwesty Radisson, Scranton 1942 1952
Trên Twilight Rheilffordd Delaware, Lackawanna a'r gorllewin Buffalo 1950 1965[21]

Cynllun yr adeiladau golygu

 
Y tŵr cloc newydd

Cynlluniwyd yr adeiladau gan Kenneth M. Murchison yn y dull Beaux-Arts. Adeiladwyd y terminal rheilffordd a fferi ym 1907 gan Reilffordd Delaware, Lackawanna a’r Gorllewin. Mae’r adeilad ar gofrestr New Jersey o lefydd hanesyddol.[22] a Chofrestr Genedlaethol o Lefydd Hanesyddol.[23]

Ystyriwyd y brif ystafell aros yn un o’r gorau yn yr Unol Daleithiau, gyda theils gwydr lliw gan Louis Comfort Tiffany.[24] Mae gan y terminal 4 llawr gyda ffasâd yn cynnwys manylion copor. Adeiladwyd y daearlawr gyda chalchfaen o dalaith Indiana. Mae grisiau crand yn arwain at y terminal fferi.

Adeiladwyd tŵr cloc yn rhan o’r adeilad gwreiddiol dros ganrif yn ôl, ond datgymalwyd y tŵr yn 1950au oherwydd ei cyflwr gwael; adeiladwyd copi o’r un gwreiddiol yn 2007.

Mae’r terminal yn arwyddocaol oherwydd y cyfuno o drenau, fferi, trenau tanddaearol, tramffyrdd a cerddwyr. Ychwanegwyd bysiau a rheilffordd ysgafn yn hwyrach. Roedd y terminal yn un o’r gyntaf i gael sied trenau wedi cynllunio gan Lincoln Bush y daethant yn gyffredin dros yr Unol Daleithiau.

Yr ardal a mynediad golygu

 
At Warrington Plaza

Heblaw am fysiau, rhaid i gerbydau ddynesu at yr orsaf ar Blas Hudson i gasglu neu i adael teithwyr. Mae safle dacsi yno. Mae Plas Hudson yn arwain at Plaza Warrington, lle mae mynediad i’r fferiau ac i’w ystafell aros.

Agorwyd rhan newydd o Lwybr Glan Afon Hudson yn 2009.[25] sy’n rhoi mynediad arall i gerddwyr.

Oriel golygu

Dolenni allanol golygu

New Jersey Transit golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y New York Times, 30 Medi 2016[dolen marw]
  2. Kenneth French, Railroads of Hoboken and Jersey City (Charleston, De Carolina: Arcadia, 2002)
  3. ""November 1967 ~ The End of Trans-Cross Hudson Ferry Service", gan Theodore W. Scull (Cymdeithas Llongau'r Byd)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-13. Cyrchwyd 2021-10-07.
  4. ""Hoboken Ferry Terminal Reopens", Gwefan myfoxny.com, 7 Rhagfyr 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-24. Cyrchwyd 2021-10-07.
  5. Gwefan nj.com
  6. Gwefan nj.com
  7. Gwefan northjersey.com
  8. Gwefan nj.com
  9. Gwefan cityroom.blogs.nytimes.com
  10. "Gwefan Awdurdod Porthladd Efrog Newydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-18. Cyrchwyd 2021-10-18.
  11. Cool is a State of Mind (and Relief)’ gan Tammy La Gorce, Gwefan New York Times
  12. google.com.au:Woody Allen Filming Locations[dolen marw]
  13. Gwefan Dyfrffordd Efrog Newydd
  14. |title=Cyfarwyddiadur Terminal Hoboken Archifwyd 2019-12-12 yn y Peiriant Wayback., Mehefin 2017]
  15. "Gwefan New Jersey Transit, Ionawr 2019" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-27. Cyrchwyd 2021-12-15.
  16. Gwefan New Jersey Transit, Hydref 2019 Archifwyd 2019-12-18 yn y Peiriant Wayback..
  17. "Gwefan New Jersey Transit, Tachwedd 2019" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-24. Cyrchwyd 2021-12-15.
  18. "Gwefan New Jersey Transit, Ebrill 2017" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-02-06. Cyrchwyd 2021-12-15.
  19. "Gwefan New Jersey Transit Ionawr 2020" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-03-19. Cyrchwyd 2021-12-15.
  20. "Gwefan New Jersey Transit Ionawr 2020" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-02-06. Cyrchwyd 2021-12-15.
  21. http://rails.jimgworld.com/psngrs.html Gwefan jimgworld.com}}
  22. Gwefan talaith New Jersey
  23. Gwefan Cofrestr Genedlaethol o Lefydd Hanesyddol
  24. Gwefan NJ Transit
  25. Gwefan nj.com
  Eginyn erthygl sydd uchod am fws, gorsaf fysiau, neu gwmni bysiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.