Darlledwr ar radio-a-theledu o Iwerddon oedd Syr Michael Terence Wogan, KBE DL (3 Awst 193831 Ionawr 2016) sy'n fwy enwog fel Syr Terry Wogan neu Terry Wogan, a weithiodd i'r BBC yn y Deyrnas Unedig am y rhan fwyaf o'i yrfa. Roedd yn adnabyddus yn y DU ers diwedd y 1960au ac yn aml, cyfeirir ato fel un o "drysorau cenedlaethol" y Deyrnas Unedig

Terry Wogan
Ganwyd3 Awst 1938 Edit this on Wikidata
Limerick Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 2016 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Taplow Edit this on Wikidata
Label recordioPhilips Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Crescent College
  • Belvedere College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd radio, cyflwynydd teledu, voiceover artiste, game show host, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • BBC Radio 2
  • BBC Edit this on Wikidata
PriodHelen Wogan Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, OBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.terrywogan.com Edit this on Wikidata
Terry Wogan

Cychwynnodd ei yrfa yn gweithio mewn banc. Yna daeth yn gyhoeddwr a darllenwr newyddion gyda Radio Eireann. Yn fuan symudodd i fyd adloniant ysgafn yn cyflwyno rhaglenni cwis ac adloniant ar sianel deledu RTE.[1]

Cafodd swyddi cyflwyno ar orsafoedd radio'r BBC yn y 1960au ac ymunodd a BBC Radio 1 yn 1969.Roedd efallai yn fwyaf adnabyddus am ei sioe radio ar Radio 2 y BBC, y sioe siarad Wogan, cyflwyno y telethon Plant Mewn Angen ac fel sylwebydd y BBC ar Gystadleuaeth Cân Eurovision o 1980 tan 2008.

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod a Helen ers Ebrill 1965. Roedd ganddynt pedwar o blant, yn cynnwys merch a bu farw yn blentyn. Bu farw Wogan yn 77 mlwydd oed wedi dioddef o ganser.

Bu farw ei wraig ar 4 Medi 2024 yn 88 mlwydd oed.[2]

Teledu

golygu
  • Blankety Blank (1979-1983)
  • Children in Need (1980-2015)
  • Wogan (1982–1992)
  • Points of View

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Sir Terry Wogan: Veteran broadcaster dies, aged 77". BBC News (yn Saesneg). 2016-01-31. Cyrchwyd 2024-09-06.
  2. "Sir Terry Wogan's wife Lady Helen dies aged 88". BBC News (yn Saesneg). 2024-09-06. Cyrchwyd 2024-09-06.