Teulu Philipps, De Cymru
teulu o Picton, sir Benfro
(Ailgyfeiriad o Teulu Philipps)
Teulu o dirfeddianwyr o Dde Cymru oedd y teulu Philipps (neu Philips) a gellir eu holrhain yn ôl at briodas (yn 1490) Thomas Philipps o Gilsant a Joan, aeres y Dwnniaid o Gydweli a'r Woganiaid o Gas-wis. Fe wnaethant elwa'n fawr o gwymp Rhys ap Thomas gan gasglu tiroedd yma ac acw o genhedlaeth o genhedlaeth. Yng Nghastell Pictwn roedd eu cartref am flynyddoedd, ond roedd eu dylanwad yn fawr mewn llefydd mor bell a Henffordd. Rhoddwyd barwnigiaeth i'r teulu yn 1621.[1]
Erbyn 1873 roedd y teulu'n berchen ar 5,176 hectar o dir yn Sir Benfro.
Rhai aelodau o'r teulu
golygu- John Philipps y 4ydd Barwnig (m. 1737) - noddwr Griffith Jones, Llanddowror
- James Philipps gŵr y bardd Katherine Philipps; priododd y ddau yn 1647, pan oedd ef yn 16 oed.
- Owen Cosby Philipps Arglwydd Kylsan (1863-1937) Aelod Seneddol a pherchennog y cwmni llongau mwyaf yn y byd cyn iddo gael ei garcharu am dwyll
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Gwyddoniadur Cymraeg]]; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008.