Katherine Philipps
Bardd, dramodydd ac awdures oedd Katherine Philipps (neu Philips), neu Orinda (née Katherine Fowler, 1 Ionawr, 1631 - 22 Mehefin, 1664). Roedd hi'n boblogaidd iawn yn ei dydd ac yn cael ei hadnabod fel "Y Ddigymar Orinda" ("The Matchless Orinda"). Priododd i mewn i deulu Philipps, tirfeddianwyr cyfoethog o Dde Cymru.
Katherine Philipps | |
---|---|
![]() Orinda (Katherine Philipps) | |
Ffugenw | Orinda ![]() |
Ganwyd | 1 Ionawr 1632 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 22 Mehefin 1664 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr ![]() |
Bywgraffiad Golygu
Cafodd ei geni yn Llundain, ond treuliai cyfnodau hir yn ardal Aberteifi gyda'i gŵr James Philipps (priodasant yn 1647 pan oedd hi'n un ar bymtheg oed). Ffurfiodd gylch llenyddol i ferched bonheddig yn yr ardal.
Mae nifer o'i cherddi'n adlewyrchu ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg. Cyfansoddodd gerdd ar thema wladgarol i Henry Vaughan (1621 - 1695), y bardd a meddyg o Ddyffryn Wysg.
Cyhoeddwyd casgliad o'i holl gerddi dan y teitl Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) yn 1664.
Mae'r nofel Orinda gan R. T. Jenkins yn seiliedig ar y cyfnod a dreuliodd Katherine Philipps yn Aberteifi.
Galeri Golygu
-
Gwaith Katherine ar fur Eglwys Aberteifi, er cof am 'John Loyd of Kilrhewe'.
-
Catherine Philips
Gwaith Orinda Golygu
- Poems by the incomparable Mrs K(atherine) P(hilipps) (1664).
Yr unig olygiad diweddar hwylus yw,
- Saintsbury (gol.), Minor Poets of the Caroline Period, cyf. 3 (1905)
Astudiaethau a llyfrau eraill Golygu
- Edmund Gosse, "The Matchless Orinda", yn Seventeenth Century Studies (1883).
- R. T. Jenkins, Orinda (1943). Nofel fer seiliedig ar ei hanes.