The Afternoons
Band pop/indi Cymraeg oedd The Afternoons a sefydlwyd yn Ninbych y Pysgod[1] ac yna Caerdydd[2].
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1999 |
Lleoliad | Dinbych-y-pysgod |
Hanes
golyguFfurfiwyd y band yn 1999 a cafodd eu sengl cyntaf, A Change in Season[2], eu chwarae ar Radio 1 yn Awst 2000. Wedi hynny yn 2001 gwnaeth y band rhyddhau senglau ar label indie FFVinyl Caerdydd, yn ogystal â ryddhau albwm The Days We Found In The Sun. Hefyd yn 2001, ar ôl rhagolwg o sioe yn Llundain, arwyddodd The Afternoons gytundeb gyda Excellent Records, wedi'i leoli yn Tokyo ac ers hynny cafodd eu cerddoriaeth eu cyhoeddi yn Siapan. Yn 2003 cyhoeddwyd ail albwm; My Lost City. Enwebwyd un sengl yng nghategori Sengl Gorau yng Ngwobrau RAP Radio Cymru 2003, o'r enw "Dwi'n mynd i newid dy feddwl"[1]. Yn Mehefin 2005, cyhoeddwyd eu trydydd albwm, Rocket Summer, ac roedd yn gam at gerddoriaeth mwy pop i'r band. Cafwyd yr albwm dderbyniad da ledled y byd, yn enwedig felly yn yr Unol Daleithiau ac yn Sbaen. Cyhoeddwyd eu pedwerydd albwm Sweet Action yn 2008. Enillodd y ddau sengl ar yr albwm ("Don’t Turn Back" a "High Summer Lover") Sengl yr Wythnos ar sioe Radcliffe a Maconie ar Radio 2[2].
Dywed y band eu bod wedi eu ysbrydoli gan fandiau ac artistiaid fel: Roxy Music, Teenage Fanclub, Scritti Politti, the Monkees, the Velvets, the Beach Boys, Kraftwerk, the High Llamas, Super Furry Animals, Macca, the Go-Betweens, Ben Kweller, F. Scott Fitzgerald, Bob Moog.
Blwyddyn | Digwyddiad |
---|---|
1999 | Ffurfiwyd y band |
2000 | A Change in Seasons wedi'i chwarae ar Radio 1 |
2001 | Cyhoeddiad albwm cyntaf, The Days We Found In The Sun
Llofnodi gyda Excellent Records |
2003 | Cyhoeddiad ail albwm My Lost City |
2005 | Cyhoeddiad trydydd albwm, Rocket Summer |
2008 | Cyhoeddiad pedwerydd albwm, Sweet Action |
Aelodau
golyguPedwar aelod sydd yn y band;
- Richard Griffiths - llais a gitâr
- Sarah Ellison - bâs
- Paul Rapi - allweddellau
- Peter Morgan - ddrymiau.