The Barry Horns (y band)
Mae'r Barry Horns yn fand pres un ar ddeg-darn a wneir i fyny o gefnogwyr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Ffurfiwyd yn 2011, enwir y band fel teyrnged i'r cyn pêl-droediwr Cymreig Barry Horne. Mae gan y band datganiad a elwir y Barryfesto, a oedd yn nodi bod y band yn bodoli er mwyn:
- uno pêl-droed Cymru drwy defnyddio pŵer y cyrn
- rhoi tiwns ar y terasau
- rhoi gobaith pan nad oes posibilrwydd mathemategol
- newid hŵters plastig i rhai pres
- ennill mewn bywyd pan nad yw'n bosib ennill ym mhêl-droed.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 2011 |
Mae'r band yn canu caneuon amrywiol, gan gynnwys "Can't Take My Eyes Off You", "Just Can't Get Enough" a "Pick Up the Pieces".
Ymddangosodd y Barry Horns' yn gyntaf mewn gêm rhagbrofol cwpan y byd yn erbyn Lloegr ar y 26ain o Fawrth, 2011.
Ym mis Chwefror 2012, rhyddhaodd y Barry Horns fideo ar gyfer eu fersiwn o gân Rocky, cofnododd y band maen hwn oedd anthem Cymru adeg Cwpan y Byd 2014.[3] Mae'r fideo yn cynnwys aelodau'r band mewn gwahanol senario hyfforddi fel parodi o hyfforddiant o'r ffilm.
Gwleidyddiaeth
golyguYm mis Hydref 2022 beirniadwyd Llywodraeth Cymru gan y Blaid Geidwadol am rhoi cefnogaeth ariannol o £17,000 i'r Barry Hornes. Disgfiriodd yr Aelod Senedd Cymru Ceidwadol, Tom Giffard, y grŵp fel “the abusive, intolerant, Plaid Cymru-supporting”. Yn dilyn yr ymosodiad neidiodd gwrandawiadau i gân This is Wales gan y Barry Horns ar Spotify i 115,000. Dyfarnwyd mwy na £17,000 i’r band o Gronfa Cymorth Partneriaid Cwpan y Byd gwerth £1.8 miliwn, sy’n cefnogi 19 o brosiectau sy’n hyrwyddo diwylliant, y celfyddydau a threftadaeth cyn y twrnamaint Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 yn Qatar.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Spotlight: Cardiff's Barry Horns | Cardiff | The Guardian". guardian.co.uk. Cyrchwyd 28 July 2016.
- ↑ "The Barry Horns - The Barryfesto". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-20. Cyrchwyd 28 July 2016. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Supporters band Barry Horns gear up for Wales' World Cup 2014 qualification - Wales Online". walesonline.co.uk. Cyrchwyd 28 July 2016.
- ↑ "Welsh Tories slam 'no strings attached Barry Horns giveaway'". Nation.Cymru. 17 Hydref 2022.