The Bell Jar
Unig nofel y llenor Americanaidd Sylvia Plath ydy The Bell Jar. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol o dan y ffugenw "Victoria Lucas" yn 1963. Nofel rhannol-hunangofiannol ydyw, gydag enwau pobl a llefydd wedi'u newid. Yn aml, ystyrir y gwaith yn roman à clef, gyda dirywiad y prif gymeriad oherwydd salwch meddyliol yn adlewyrchu profiadau personol Plath ei hun. Cymerodd Plath ei bywyd ei hun fis ar ôl i'r nofel gael ei chyhoeddi yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddwyd y nofel o dan enw Plath am y tro cyntaf ym 1967 ac ni chafodd ei chyhoeddi yn yr Unol Daleithiau tan 1971, o ganlyniad i ddymuniad mam Plath a'i gŵr Ted Hughes.[1] Bellach mae'r nofel wedi ei chyhoeddi mewn bron i ddeuddeg iaith gwahanol.[2]
Clawr yr argraffiad cyntaf o nofel Sylvia Plath ("Victoria Lucas") "The Bell Jar" | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Sylvia Plath |
Cyhoeddwr | Heinemann |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Ionawr 1963 |
Tudalennau | 288 |
Genre | Rhannol-hunangofiannol |
Prif bwnc | ffeministiaeth, seiciatreg, Unol Daleithiau America, Dinas Efrog Newydd, hunanladdiad, anhwylder deubegwn, Iselder ysbryd, autofiction |
Lleoliad y gwaith | Dinas Efrog Newydd, Boston |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ McCullough, Frances (1996). "Forward". In The Bell Jar. New York: HarperCollins Publishers. p. xii. ISBN 0-06-093018-7.
- ↑ (2011) "Sylvia Plath's The Bell Jar: Understanding Cultural and Historical Context in an Iconic Text", gol. Janet McCann: Critical Insights: The Bell Jar. Pasadena, CA: Salem Press. ISBN 978-1-58765-836-5