Roman à clef
Nofel wedi'i seilio ar fywyd go iawn, ond yn esgus ei bod yn ffuglen yw roman à clef (Ffrangeg: "nofel gydag allwedd"). Mae'r cymeriadau yn y nofel yn cynrychioli pobl go iawn, gan ddefnyddio ffugenwau yn lle eu enwau go iawn. Weithiau bydd awdur yn cyflenwi'r "allwedd" sy'n esbonio pwy yw'r bobl go iawn sy'n cyfateb i'r cymeriadau, ond yn amlach gadewir i'r darllenydd ddarganfod drosto'i hun.
Enghraifft o'r canlynol | novel genre |
---|---|
Math | nofel |
Ymhlith y rhesymau i awdur ddewis fformat roman à clef mae'r cyfleoedd i:
- ysgrifennu am bynciau dadleuol
- osgoi cymhlethdodau cyfreithiol (enllib, er enghraifft)
- adrodd ar wybodaeth fewnol am sgandalau
- portreadu profiadau hunangofiannol heb ddatgelu rôl yr awdur ynddynt
- gorliwio'r digwyddiadau yn ddychanol i'w gwneud yn fwy hurt neu'n fwy doniol
- newid manylion anfoddhaol y stori go iawn
Dyma ddetholiad o nofelau roman à clef adnabyddus:
- Ernest Hemingway, The Sun Also Rises
- Jack Kerouac, On the Road
- James Joyce, A Portrait of the Artist as a Young Man
- Thomas Mann, Buddenbrooks
- Sylvia Plath, The Bell Jar
- Marcel Proust, À la recherche du temps perdu
- Siegfried Sassoon, Memoirs of a Fox-Hunting Man
- Lauren Weisberger, The Devil Wears Prada
- Jeanette Winterson, Oranges Are Not the Only Fruit