The Boring Company
Mae The Boring Company (TBC) yn gwmni seilwaith, gwasanaethau adeiladu twneli ac offer Americanaidd a sefydlwyd gan Elon Musk. Sefydlwyd TBC fel is-gwmni i SpaceX yn 2017, cyn iddyn nhw gael eu gwahanu yn 2018. Yn 2023 roedd TBC wedi cwblhau un prosiect twnelu sydd ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â thwnnel prawf.
Enghraifft o'r canlynol | busnes |
---|---|
Gwlad | UDA |
Dechrau/Sefydlu | 17 Rhagfyr 2016 |
Perchennog | Elon Musk, SpaceX |
Sylfaenydd | Elon Musk, SpaceX |
Rhiant sefydliad | SpaceX |
Ffurf gyfreithiol | cwmni preifat |
Pencadlys | Hawthorne |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://boringcompany.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2021, cwblhaodd TBC y Las Vegas Convention Center, LVCC Loop, sy'n system gludo tair gorsaf sy'n cynnwys 1.7 milltir (2.7 km) o dwneli. Yng Ngorffennaf 2023, agorwyd rhan o'r twnel i'r Resorts World hefyd ar agor, ac mae twneli i gyrchfannau Encore a Westgate yn cael eu cwblhau. Bwriedir ehangu'r system i gyfanswm o 68 milltir o dwneli yn Las Vegas. Cwblhaodd TBC hefyd un twnnel prawf yn Los Angeles County, California . Mae llawer o brosiectau eraill mewn dinasoedd ar draws yr Unol Daleithiau wedi'u cyhoeddi.[1]
Hanes
golyguCyhoeddodd Musk y syniad o’r Boring Company yn Rhagfyr 2016,[2] a chofrestrwyd y cwmni'n swyddogol fel “TBC – The Boring Company” ar 11 Ionawr 2017.[3] Cyfeiriodd Musk at anhawster gyda thraffig Los Angeles, a’r hyn y mae’n ei ystyried yn gyfyngiadau ar ei rwydwaith trafnidiaeth dau ddimensiwn, fel ei ysbrydoliaeth gynnar ar gyfer y prosiect.[4][5] Ffurfiwyd The Boring Company fel is - gwmni SpaceX. Yn ôl Musk, nod y cwmni yw creu twnelau'n gyflymach.[6]
Yn gynnar yn 2018, trowyd y Boring Company allan o SpaceX ac i mewn i endid corfforaethol ar wahân.[7] Rhoddwyd ychydig yn llai na 10% o ecwiti i weithwyr cynnar, a thros 90% i Elon Musk. Daeth gweithwyr cynnar o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys rhai o SpaceX.
Dechreuodd y cwmni ddylunio ei beiriannau tyllu twnnel ei hun, a chwblhau sawl prawf yn Hawthorne, California. Agorodd twnnel prawf Hawthorne i'r cyhoedd ar 18 Ragfyr 2018.[8]
Yng Ngorffennaf 2019, gwerthodd y Boring Company US$120 miliwn mewn stoc i gwmnïau cyfalaf menter (venture capital firms),[9] ar ôl codi $113 miliwn mewn cyfalaf nad yw’n gyfalaf allanol yn ystod 2018. yn Nhachwedd 2019, daeth Steve Davis yn llywydd y cwmni ar ôl arwain y gwaith ers 2016. Roedd Davis yn un o'r gweithwyr cyntaf i gael ei gyflogi gan SpaceX (yn 2003) ac mae ganddo raddau meistr deuol mewn ffiseg gronynnau a pheirianneg awyrofod.[10]
Yn Nhachwedd 2020, cyhoeddodd TBC eu bwriad i logi staff ar gyfer swyddi yn Austin, Tecsas, ac erbyn Rhagfyr 2020 roeddynt wedi prydlesu dau adeilad mewn safle 14 erw (5.7 ha), ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Austin, tua 16 milltir (26 km) i'r gogledd o Gigafactory Tecsas.[11]
Peiriannau tyllu
golyguY peiriant tyllu cyntaf a ddefnyddiwyd gan The Boring Company oedd Godot, TBM confensiynol a wnaed gan Lovat.[12][13] Yn ddiweddarach byddai'r cwmni'n dylunio eu llinell eu hunain o beiriannau o'r enw Prufrock.[14] Adroddodd Engadet y gallai’r Prufrock-2, a ddadorchuddiwyd yn Awst 2021,[15] gloddio hyd at filltir yr wythnos, tra bod ei olynydd, y Prufrock-3 wedi’i gynllunio i gloddio hyd at saith milltir y dydd.[16]
Twneli
golyguTwnnel prawf Hawthorne
golyguAdeiladodd TBC 1.14 milltir (1.83 km) twnnel cyflym 1.14 (1.83 km) yn 2017 ar lwybr yn Hawthorne, California, ym mhencadlys SpaceX.[17] Asffalt yw wyneb y twnnel, ac mae ganddo ganllaw ar gyfer gweithredu cerbydau ymreolaethol (autonomous) ac mae'n caniatau teithiau car ar gyflymder o 90 mya (140 km/awr) gyda rheolaeth ymreolaethol a hyd at 116 mya (187 km/awr) o dan reolaeth ddynol.
Canolfan Gynadledda Las Vegas
golyguYm Mai 2019, enillodd y cwmni brosiect $48.7 miliwn i wenoli ymwelwyr mewn dolen o dan yr LVCC.[18] Torrwyd y dywarchen gyntaf ar 15 Tachwedd 2019 ac mae'r twnnel yn 4,475 troedfedd (1,364 metr) o hyd. Gorffennwyd y gwaith ar 14 Chwefror 2020 gan gloddio ar gyfartaledd 49 tr (15 m) y dydd.[19][20] Ym Mai 2020, cwblhawyd ail dwnnel[21] 1.7 milltir (2.7 km) o hyd [22] ac fe'i agorwyd yn Hydref 2019.[23] Mae cerbydau safonol Tesla gyda gyrwyr dynol yn cael eu defnyddio fel gwennol, gan deithio tua 35 milltir yr awr.[24] Disgrifiwyd y gwasanaeth gan Fwrdd Twristiaeth Las Vegas fel “cam pwysig yn natblygiad cludiant Las Vegas”.[25]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ted Mann; Julie Bykowicz (28 Tachwedd 2022). "Elon Musk’s Boring Company Ghosts Cities Across America" (yn en-us). The Wall Street Journal. ISSN 0099-9660. Wikidata Q115488224. https://www.wsj.com/articles/elon-musk-boring-company-tunnel-traffic-11669658396.
- ↑ Gajanan, Mahita (2016-12-18). "Elon Musk's Next Venture to Tackle Traffic Is Totally 'Boring'". Fortune. Cyrchwyd 2023-08-14.
- ↑ "TBC – THE BORING COMPANY". OpenCorporates. 2017-01-11. Cyrchwyd 2023-08-01.
- ↑ Chafkin, Max (February 16, 2017). "Elon Musk Is Really Boring". Bloomberg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 16, 2017. Cyrchwyd February 16, 2017.
- ↑ Peyser, Eve (January 30, 2017). "Elon Musk on Digging Big-Ass Tunnel: 'We Have No Idea What We're Doing'". Gizmodo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 19, 2017. Cyrchwyd February 17, 2017.
- ↑ Thompson, Avery (February 16, 2017). "Elon Musk Is Really Making a Boring Company". Popular Mechanics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 28, 2017. Cyrchwyd April 27, 2017.
- ↑ Copeland, Rob (17 December 2018). "Elon Musk's New Boring Co. Faced Questions Over SpaceX Financial Ties". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 18, 2018. Cyrchwyd 18 December 2018.
When the Boring Co. was earlier this year spun into its own firm, more than 90% of the equity went to Mr. Musk and the rest to early employees, ... The Boring Co. has since given some equity to SpaceX as compensation for the help, ... about 6% of Boring stock, “based on the value of land, time and other resources contributed since creation of the company,”
- ↑ Lekach, Sasha (December 7, 2018). "In true Musk fashion, Boring Company test tunnel opening pushed back a week". Mashable. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 14, 2018. Cyrchwyd 2018-12-11.
- ↑ Khalid, Amrita (June 26, 2019). "Elon Musk's Boring Co. raises $120 million in outside funding". Engadget (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 26, 2019. Cyrchwyd July 26, 2019.
- ↑ McBride, Sarah (15 November 2019). "Elon Musk's Boring Co. Is Run by a Former Bar Owner Who Can Quote Ayn Rand". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 10, 2019. Cyrchwyd 10 December 2019.
- ↑ Hardison, Kathryn (15 December 2020). "Elon Musk's The Boring Co. grabs industrial space in Pflugerville, documents show". Austin Business Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 7, 2021. Cyrchwyd 25 December 2020.
- ↑ Wattles, Jackie (2017-07-08). "All the quirky details you need to know about Elon Musk's Boring company". CNN Money. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 22, 2020. Cyrchwyd 2020-03-22.
- ↑ Loveday, Steven (2017-08-13). "Yet Another Boring Backstory". Inside EVs. Cyrchwyd 2023-08-07.
- ↑ Marshall, Aarian (2018-06-14). "Elon Musk's Boring Company Wins a Big Boring Contract in Chicago". Wired. Cyrchwyd 2023-08-07.
- ↑ Calin, Razvan (2022-10-22). "Elon Musk's Prufrock Makes Boring Exciting With Porpoise-Style, Purpose-Driven Drills". autoevolution (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-06.
- ↑ Dent, Steve. "Elon Musk's Boring Company plans to 'significantly' expand after funding round". Engadget (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-06.
- ↑ Geuss, Megan (2018-12-19). "Ars takes a first tour of the length of The Boring Company's test tunnel". Ars Technica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 28, 2021. Cyrchwyd 2021-07-05.
- ↑ Bliss, Laura (2019-05-29). "Elon Musk's $49 Million Las Vegas Loop Makes Perfect Sense — for Las Vegas". Bloomberg. Cyrchwyd 2023-08-24.
- ↑ "Boring Company's Las Vegas Tunnel Excavation Has Finally Been Completed". interestingengineering.com (yn Saesneg). 2020-02-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 21, 2020. Cyrchwyd 2020-02-21.
- ↑ Velotta, Richard N. (2020-02-14). "1st tunnel completed for Las Vegas Convention Center's people-mover". Las Vegas Review-Journal. Cyrchwyd 2023-08-24.
- ↑ O'Kane, Sean (2020-05-14). "Elon Musk's Boring Company finishes digging Las Vegas tunnels". The Verge (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 21, 2020. Cyrchwyd 2020-05-21.
- ↑ Reilly, Claire. "Elon Musk's Boring Loop transports first passengers in Vegas". CNET (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 9, 2021. Cyrchwyd 2021-06-09.
- ↑ Cao, Sissi (2021-06-10). "Elon Musk's Vegas Boring Tunnel Is a Disappointment, But Cities Are Eager to Have It". Observer. Cyrchwyd 2023-08-24.
- ↑ Vaughn, Mark (2021-04-12). "Elon Musk's Boring Company Completes First Mile-Long Vegas Tunnel". Autoweek (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 13, 2021. Cyrchwyd 2021-04-13.
- ↑ Hahn, Jennifer (2022-07-01). "Elon Musk's The Boring Company opens first station in expanded Las Vegas transit tunnel system". Dezeen (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-14.