The Cambrian (UDA)


Cylchgrawn Saesneg ar gyfer y gymuned Gymreig yn yr Unol Daleithiau oedd The Cambrian, a gyhoeddwyd yn fisol o 1880 hyd 1919. Roedd yn un o gylchgronnau mwyaf poblogaidd y Cymry yn UDA.

The Cambrian
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata

Cychwynnwyd y cylchgrawn gan y Parch. D. J. Jones yn Cincinnati, Ohio. Yn y flwyddyn 1886, prynwyd y cyhoeddiad gan y Parch. Edward C. Evans o Remsen, Swydd Oneida, a dechreuwyd ei argraffu gan T. J. Griffith yn yr Exchange Buildings, Utica, Efrog Newydd.[1]

Ar ddiwedd 2009, cwblhawyd prosiect gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddigido pob rhifyn o'r cylchgrawn a'i rhoi ar-lein. Ceir bron i 19,000 o dudalennau sy'n cofnodi hanes y Cymry yn America hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth Fy Ngwlad (Treffynnon, 1893), tud. 209.
  2. Dalen, Cylchlythyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwanwyn 2010.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato