The Fault in Our Stars (ffilm)
Ffim ramant Americanaidd o 2014 a gyfarwyddwyd gan Josh Boone ydy The Fault in Our Stars. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan John Green. Mae'r ffilm yn serennu Shailene Woodley, Ansel Elgort a Nat Wolff, gyda Laura Dern, Sam Trammell a Willem Dafoe yn chwarae rhannau cefnogol. Chwaraea Woodley ran Hazel Grace Lancaster, merch un ar bymtheg oed sy'n dioddef o gancr ac sydd wedi cael ei gorfodi gan ei rhieni i fynychu grŵp cymorth cancr. Tra yno, mae'n cwrdd ac yn cwympo mewn cariad gyda Augustus Waters, a chwaraeir gan Elgort.
Poster o'r ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Josh Boone |
Ysgrifennwr | Scott Neustadter Michael H. Weber |
Serennu | Shailene Woodley Ansel Elgort Nat Wolff Laura Dern Sam Trammell Willem Dafoe |
Sinematograffeg | Ben Richardson |
Golygydd | Robb Sullivan |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Temple Hill Entertainment TSG Entertainment |
Dosbarthydd | 20th Century Fox |
Amser rhedeg | 126 munud[1] |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $12 miliwn[2] |
Refeniw gros | $304.9 miliwn |
- Am y nofel gan John Green, gweler The Fault in Our Stars.
Dechreuwyd datblygu The Fault in Our Stars ym mis Ionawr 2012 pan gafodd Fox 2000, sy'n rhan o 20th Century Fox, yr hawliau i addasu'r nofel yn ffilm. Dechreuwyd ffilmio ar 26 Awst, 2013, yn Pittsburgh, yn yr Unol Daleithiau, gyda rhai diwrnodau ychwanegol yn Amsterdam, yr Iseldiroedd, cyn gorffen ffilmio ar 16 Hydref, 2013.
Rhyddhawyd The Fault in Our Stars ar 6 Mehefin, 2014, yn yr Unol Daleithiau. Derbyniodd adolygiadau cadarnhaol gan y beirniaid, gyda chlod penodol yn cael ei roi i Woodley ac i'r sgript.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ THE FAULT IN OUR STARS (12A). British Board of Film Classification (8 Mai, 2014).
- ↑ Anita Busch (18 Medi, 2014). ‘Fault In Our Stars’ Box Office To Cross $300M Worldwide On Modest Budget: How’d It Happen?. Deadline.com.