The Fault in Our Stars
Chweched nofel yr awdur John Green ydy The Fault in Our Stars. Fe'i chyhoeddwyd yn Ionawr 2012. Adroddir y stori o safbwynt clâf cancr un ar bymtheg oed o'r enw Hazel Grace Lancaster, sy'n cael ei gorfodi gan ei rhieni i fynychu grŵp cymorth ar gyfer cleifion a thrwy wneud hynny, mae'n cwrdd a chwympo mewn cariad gyda bachgen dwy ar bymtheg oed o'r enw Augustus Waters, sy'n gyn-chwaraewr pêl-fasged sydd wedi colli ei goes. Ysbrydolwyd teitl y nofel gan Act 1, Golygfa 2 o ddrama Shakespeare Julius Caesar, lle mae'r bonheddwr Cassius yn dweud wrth Brutus: "The fault, dear Brutus, is not in our stars, / But in ourselves, that we are underlings."
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | John Green |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 10 Ionawr 2012 |
Genre | ffuglen ar gyfer oedolion ifanc, ffuglen ramantus, naratif |
Lleoliad y gwaith | Amsterdam, Indianapolis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfarwyddwyd yr addasiad ffilm o'r nofel gan Josh Boone ac mae'n serennu Shailene Woodley, Ansel Elgort a Nat Wolff. Cafodd ei rhyddhau ar 6 Mehefin 2014.