The Human Centipede (First Sequence)
Ffilm arswyd Iseldiraidd a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan Tom Six yw The Human Centipede (First Sequence). Mae'n serennu Dieter Laser, Ashley C. Williams, Ashlynn Yennie, ac Akihiro Kitamura. Mae'r ffilm yn sôn am feddyg Almaenaidd sy'n herwgipio tri thwrist ac yn eu hymuno â'i gilydd drwy lawfeddygaeth, ceg i anws, gan ffurfio "neidr gantroed ddynol".[2]
Poster theatraidd The Human Centipede | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Tom Six |
Cynhyrchydd | Tom Six Ilona Six |
Ysgrifennwr | Tom Six |
Serennu | Dieter Laser Ashley C. Williams Ashlynn Yennie Akihiro Kitamura |
Cerddoriaeth | Patrick Savage Holeg Spies |
Sinematograffeg | Goof de Koning |
Golygydd | Tom Six |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Six Entertainment |
Dosbarthydd | IFC Films Bounty Films (yr Unol Daleithiau, Awstralia, a Seland Newydd) |
Dyddiad rhyddhau | 30 August 2009 FrightFest |
Amser rhedeg | 91 munud[1] |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Iaith | Saesneg Japaneg Almaeneg |
Cyllideb | €1,500,000 |
Olynydd | The Human Centipede II (Full Sequence) |
Yn ôl Tom Six, daeth syniad y ffilm o jôc a'i wnaeth gyda ffrindiau ynglŷn â chosbi molestwyr plant gan bwytho eu ceg i'r anws o yrrwr tryc tew.[3] Dywedodd Six mewn cyfweliadau y cafodd gymorth gan lawfeddyg mewn cynllunio'r weithdrefn feddygol a bod y ffilm yn "feddygol gywir yn 100%". Serch hynny, disgrifir y cywirdeb meddygol fel "chwerthinllyd" a "sbwriel" gan ffisigwr ac adolygwyr ffilmiau.[4] Wrth chwilio am fuddsoddwyr cyn i ddechrau ffilmio, ni soniodd Six am agwedd ceg-i-anws o'r plot, gan roedd ofn arni ynglŷn â phryderu buddsoddwyr potensial. Ni ddarganfyddodd arianwyr y ffilm y natur llawn nes y cafodd ei gwblhau.[3]
Cafodd The Human Centipede adolygiadau cymysg ond sawl acolâd yn ystod gwyliau ffilmiau cenedlaethol amrywiol. Rhyddhawyd y ffilm yn y Taleithiau Unedig ar Video on Demand ar 28 Ebrill 2010, ac mewn limited release yn theatraidd ar 30 Ebrill 2010. Mae Tom Six yn gweithio ar ddilyniant, The Human Centipede (Full Sequence), a ryddheir yn ystod 2011.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) THE HUMAN CENTIPEDE (FIRST SEQUENCE) (2010-06-22).
- ↑ (Saesneg) Karina Longworth (2010-05-06). The Human Centipede: Girl-Man-Girl Interrupted. LA Weekly.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Clark Collis (2010-05-10). 'Human Centipede': Director and star of the year's most disgusting horror film spill their guts. Entertainment Weekly.
- ↑ (Saesneg) David Farrier. Full interview with Human Centipede doctor - Video. 3 News Com of New Zealand.