Colomen rasio llwyddiannus oedd The King of Rome, enillydd ras 1001 milltir (1,611 km) o Rufain, yr Eidal i Lundain, Lloegr, yn 1913. Roedd yn destun ar gyfer cân a llyfr gan Dave Sudbury, daeth y gân yn enwog pan ei recordwyd gan June Tabor.[1]

Yr aderyn wedi ei gadw yn amgueddfa Derby

Yr Aderyn

golygu

Cafodd yr aderyn yn geiliog glas,[2] rhif modrwy NU1907DY168,[3] ei fagu gan Charlie Hudson, o 56 Brook Street, Derby. Dechreuodd Hudson ei yrfa rasio colomennod yn 1904.[1] Roedd yn lywydd a thrysorydd y Derby Town Flying Club ar adeg y ras.[1] Roedd hefyd yn ysgrifennu am rasio colomennod yn y Derby Evening Telegraph.[4] Ar farwolaeth yr aderyn fe gyflwynodd Hudson y corff i Derby Museum and Art Gallery lle mae ei groen tacsidermi wedi ei gadw gyda'r rhif derbyn DBYMU.1946/48. Mae wedi cael ei arddangos ers 2011,[5] ac mae hefyd wedi ei arddangos ar fenthyg mewn lleoliadau eraill gan gynnwys Walsall Museum a Wollaton Hall yn Nottingham.[4]

Y gân

golygu
 
Sudbury, in 2012

Roedd the King of Rome a'i berchennog yn destun cân a llyfr gan Dave Sudbury. Mae'n egluro'r hanes, gan amlygu'r peryglon a oedd yn gysylltiedig â rasus yr aderyn:

Ar dydd y ras fe gododd storm
a mil o adar a gollwyd yn y gwynt a'r glaw[5]

Daeth y gân i enwogrwydd pan ganwyd gan June Tabor.[1] Wedi iddi glywed Sudbury yn perfformio'r gân mewn cystadleuaeth ar ddiwedd yr 80'au lle yr oedd hi'n beirniadu (fe ddoth yn bedwerydd[6]), recordiodd Tabor y gân ar gyfer ei albwm yn 1988 Aqaba. Dywedodd Brian McNeill, un arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol:

Roedd "The King of Rome" pen a sgwyddau uwchben pob cân arall gafodd ei berfformio ar y noson, dylai wedi ennill.[6]

Mae McNeill, ers hynny, wedi perfformio'r gân, ac mae recordiad byw yn ymddangos ar ei albwm o 2004 gyda Iain MacKintosh, Live and Kicking.[6]

Fe recordiodd y canwr gwerin o America Vance Gilbert y gân ar gyfer ei albwm 1994 Edgewise, ac fe recordiodd y canwr gwerin o Ganada, Garnet Rogers, y gân ar gyfer ei albwm Summer Lightning (2004). Mae'r grŵp Half Man Half Biscuit hefyd wedi recordio fersiwn o'r gân, ond nid yw eisoes wedi ei ryddhau.[7]

Y llyfr

golygu

Mae geiriau Sudbury wedi eu cyhoeddi fel llyfr 32 tudalen, gyda darluniau gan Hans Saefkow.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Museum plea on pigeon", Derby Evening Telegraph, 25 Medi 2001.
  2. (2 Awst 1913) The Racing Pigeon, tud. 139
  3. Savage, Andy. "The King of Rome - Charles Hudsons famous Pigeon from the West end of Derby". Derby Photos. Cyrchwyd 2011-07-08.
  4. 4.0 4.1 "Legend of the stuffed superstar", Derby Evening Telegraph, 9 Rhagfyr 1996.
  5. 5.0 5.1 "Natural History treasure - The King of Rome". Derby City Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-23. Cyrchwyd 2011-07-08.
  6. 6.0 6.1 6.2 Sleeve notes, Iain MacKintosh & Brian McNeill, Live and Kicking, 2000
  7. "HMHB: Unreleased Tracks from Radio Sessions". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-05. Cyrchwyd 2011-07-08.
  8. Dave Sudbury (2010). The King of Rome. Simply Read Books. ISBN 978-1894965941URL

Dolenni allanol

golygu