Y Cymin

bryn
(Ailgyfeiriad o The Kymin)

Bryncyn bychan sydd a'i olwg tuag at Drefynwy ydy'r Kymin (neu'r Cymin). Saif oddeutu un filltir i'r dwyrain o'r dref. Saif nepell o'r ffin â Swydd Gaerloyw. Mae copa'r bryn oddeutu 243 m (800 tr) o uchder ac mae'n enwog oherwydd adeilad gwahanol iawn a godwyd rhwng 1794 a 1800: "Y Tŷ Crwn".

Y Cymin
Mathbryn, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr256 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.80905°N 2.6864°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO5277612496 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd86 metr Edit this on Wikidata
Map

Awgrymwyd bod yr enw yn deillio o "Cae-y-Maen".[1]

Ffoledd ydy'r adeilad deulawr, mewn gwirionedd, ac fe'i codwyd yn wreiddiol gan grŵp o fonheddwyr a alwant eu hunain yn, "The Monmouth Picnic Club" neu weithiau: "Clwb y Cymin". Dyn o'r enw Philip Meakins Hardwick oedd eu harweinydd. Roedd Dug Beuafort ac 8 Aelod Seneddol yn eu plith hefyd. Daethant ynghyd yn wythnosol i drafod materion cymdeithasol y dydd. Codwyd yr adeilad ar eu cyfer, gyda'r ceginau ar y llawr gwaelod ac ystafell wledda uwch ei ben gyda thelesgopau cryfion.[2]

Y tu allan, roedd maes bowlio ac roedd stablau gerllaw. O'r to, lle'r arferwyd gosod y telesgopau yn yr haf, honir y gellir gweld 9 sir, tri o'r rheiny yng Nghymru: Sir Fynwy, Sir Forgannwg a Sir Frycheiniog.

Cyfeiriadau golygu

  1. Charles Heath, Descriptive Account of the Kymin Pavilion and Beaulieu Grove with their various views; also a description of the Naval Temple (Monmouth, 1807)
  2. Gwefan Ymddiriedolaeth Archiau Siroedd Morgannwg a Gwent.
Golygfa o'r Cymin, yn edrych tuag at Drefynwy