The Mystery of the Missing Man

nofel i blant gan Enid Blyton

The Mystery of the Missing Man (1956) yw'r trydydd llyfr ar ddeg yng nghyfres nofelau dirgelwch i blant gan Enid Blyton y Five Find-Outers fe’i cyhoeddwyd gan Methuen and Co Ltd ac mae’n olynu The Mystery of Tally-Ho Cottage ac yn rhagflaenu The Mystery of the Strange Messages [1]

The Mystery of the Missing Man
Clawr yr argraffiad 1af
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEnid Blyton
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1956 Edit this on Wikidata
ISBN9781405203951 -7
DarlunyddJoseph Abbey
GenreLlyfrau plant, Nofel
CyfresFive Find-outers
Rhagflaenwyd ganThe Mystery of Holly Lane, The Mystery of Tally-Ho Cottage Edit this on Wikidata
Olynwyd ganThe Mystery of the Strange Messages Edit this on Wikidata

Cymeriadau

golygu
  • Fatty (Frederick) - Pennaeth y Pum Darganfyddwr.
  • Daisy - Aelod o'r Pum Darganfyddwr.
  • Bets - Yr aelod ieuengaf o'r Pum Darganfyddwr.
  • Larry - Cyn-bennaeth y Pum Darganfyddwr.
  • Pip - Aelod o'r Pum Darganfyddwr.
  • Buster - Ci sy'n eiddo i Fatty.
  • Mr Goon - Plismon lleol Peterswood.
  • Eunice - Merch ffrind tad Fatty, Mr Tolling.
  • Prif Arolygydd Jenks - Ffrind i'r Pum Darganfyddwr.
  • Bert - Clown yn y ffair.
  • Josef - Gweithiwr yn y ffair.
  • Lucita - Gweithiwr yn y ffair.
  • Harris - Troseddwr y stori.
  • Mr Tolling - Yn ffrind i dad Fatty, mae o hefyd yn coleopterydd (arbenigwr ym maes astudio chwilod).

Crynodeb

golygu

Mae Fatty, arweinydd y darganfyddwyr yn derbyn newyddion gan y Prif Arolygydd Jenks, bod troseddwr peryglus ar ffo. Mae'r troseddwr yn feistr cuddwisg sydd â diddordeb mewn pryfed. Yn anffodus, mae merch ffrind ei dad, Eunice, yn rhwystro Fatty rhag canolbwyntio ar y dirgelwch. Ond cyn bo hir mae Eunice yn helpu Fatty i ddatrys y dirgelwch. Mae Fatty yn amau bydd y troseddwr yn y ffair a gynhelir yn y pentref. Mae Fatty a'r lleill yn ceisio ymchwilio i bobl amheus yn y ffair fel Bert y clown, Josef, Lucita a'u nain drist, gydag ychydig o help gan Eunice maent yn darganfod bod Josef a Lucita yn dal y troseddwr yn eu carafán.

Mae'r llyfr yn cyflwyno Mr Tolling, hen ffrind ysgol i dad Fatty sy'n dod i dreulio wythnos gyda'r teulu Trotteville er mwyn iddo allu mynychu cynhadledd y coleopteryddion sy'n cael eu cynnal yn Neuadd y Dref Peterswood. Mae Mr Tolling yn debyg i chwilen ei hun, dyn bach gyda barf ddu enfawr, sbectol fawr a bob amser yn gwisgo siwt dywyll. Mae'n hoffus iawn, hyd yn oed os yw ychydig yn ddiflas, bob amser yn mynd ymlaen am chwilod a pha mor hynod ddiddorol ydyn nhw. Ar yr un pryd a'r gynhadledd chwilod mae ffair yn cael ei gynnal yn Peterswood.[2]

Mae Eunice, merch Mr Tolling, - wedi dod i aros efo'r teulu hefyd. Mae Fatty i fod i'w difyrru yn ystod ei harhosiad, ac mae hi'n barod i ymuno â beth bynnag mae Fatty a'i ffrindiau yn ei wneud. Mae agwedd gormesol, hynod effeithlon, hynod gynorthwyol Eunice yn mynd dan groen Fatty a'i ffrindiau. Trwy gydol y llyfr mae hi'n graff a ffraeth, ond nid yw Fatty eisiau ei chwmni ac mae'n ceisio dianc oddi wrthi ar bob cyfle posib.

Mae'r dirgelwch yn dechrau pan fydd Fatty yn gwisgo i fyny fel trempyn mewn ymdrech i osgoi Eunice. Mae'n gwisgo ei guddwisg ac yna'n cuddio yn ei sied. Mae Eunice yn edrych trwy'r ffenestr y sied ac yn sgrechian dros y lle bod "tresmaswr yn sied Fatty!". Mae Mr Goon gerllaw ac yn dod draw ac yn mynnu bod y trempyn yn dangos ei hun. Mae Fatty yn rhedeg allan o'r sied ac yn ffoi gyda Buster, sy'n cyfarth yn gyffrous o amgylch ei draed. Mae Mr Goon yn gwneud esgus am fethu dal y trempyn gan ei fod yn ŵr cryf iawn, ac wedi gallu rhedeg i ffwrdd er bod Buster wedi tynnu talpiau mawr allan o'i fferau wrth iddo geisio dianc.

Mae'r Prif Arolygydd Jenks yn ymweld â Goon ac yn dweud wrtho am fod yn wyliadwrus am droseddwr peryglus sydd wedi dianc o'r carchar. Mae gan y troseddwr craith gas uwch ei wefus ond, gan ei fod yn feistr ar guddwisgo yn gallu ei guddio'n eithaf da gyda barf. Mae Mr Goon yn dod i'r casgliad mae'n rhaid mai'r trempyn yw'r dyn maen nhw ar ei ôl.

Er i'r plant a'r heddlu chwilio ym mhob man am y troseddwr ni allant ddod o hyd iddo. Mae Fatty yn cael ei herwgipio gan hen fenyw fudr a'i phlant sydd wedi tyfu i fyny. Mae'r hen fenyw yn rhedeg syrcas pryfed yn y ffair. Wedi iddo ddod yn rhydd o garafán yr hen fenyw, mae Fatty ac Eunice yn gweithio allan mae'r hen fenyw yw'r troseddwr mewn cuddwisg sy'n hoff o bryfed.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Blyton, Enid (2003). The mystery of the missing man. Llundain: Egmont. ISBN 1-4052-0405-2. OCLC 52946334.
  2. "The Mystery of the Missing Man (The Five Find-Outers, #13)". www.goodreads.com. Cyrchwyd 2020-01-14.
  3. "The Mystery of the Missing Man". Children's Books Fandom. Cyrchwyd 2020-01-14.

Dolenni allanol

golygu

Tudalen Cymdeithas Enid Blyton am y llyfr

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth Enid Blyton