Five Find-Outers
Cyfres o lyfrau dirgelwch plant a ysgrifennwyd gan Enid Blyton yw The Five Find-Outers and Dog, neu'r Five Find-Outers. Cyhoeddwyd y llyfrau gyntaf rhwng 1943 a 1961. Mae storïau’r gyfres yn cael eu lleoli ym mhentref ffuglen Peterswood sy'n seiliedig ar Bourne End, Swydd Buckingham. Mae'r plant Larry (Laurence Daykin), Fatty (Frederick Trotteville), Pip (Philip Hilton), Daisy (Margaret Daykin), Bets (Elizabeth Hilton) a Buster, ci Fatty, yn dod ar draws dirgelwch bron bob gwyliau ysgol, gan ddatrys y pos cyn Mr Goon, heddwas annymunol y pentref, er mawr boendod iddo.[1]
Cymeriadau
golygu- Frederick Algernon (Fatty) Trotteville - arweinydd y Darganfyddwyr o'r trydydd llyfr, pan mae'n cyfiawnhau ei arweinyddiaeth trwy ddangos sut i ddefnyddio inc anweledig a sut i ddianc o ystafell sydd wedi'i chloi. Rhoddir y llysenw Fatty iddo gan y plant eraill oherwydd lythrennau cyntaf ei enw, Frederick Algernon Trotteville, FAT a'i faint corfforol. Gan ei fod yn unig blentyn, mae'n derbyn symiau hael o arian poced gan ei rieni a'i berthnasau cyfoethog. Mae Fatty bob amser yn barod i rannu ei arian gyda'r grŵp, gan brynu rowndiau o gacennau, diodydd a hufen iâ yn aml. Mae Fatty hefyd yn defnyddio ei arian poced i ariannu ei ddiddordeb mewn cuddwisgoedd ac yn storio casgliad mawr o ddillad, wigiau, colur llwyfan, padiau boch, dannedd ffug ac eitemau eraill yn ei sied ar waelod yr ardd. Er ei fod yn froliwr yn ôl natur, mae'n dysgu bod yn fwy cymedrol gan fod ei ymffrostio yn achosi i'r plant eraill fynd yn ddig. Mae Fatty yn areithiwr a bardd medrus, ac yn gallu creu barddoniaeth ad-lib. Mae'n debyg ei fod ar frig ei ddosbarth yn ei ysgol breswyl. Ei uchelgais pan fydd yn tyfu i fyny yw dod yn dditectif. Mae Fatty yn datblygu diddordeb mewn tafleisiaeth wrth i'r gyfres fynd yn ei blaen. Mae Bets yn meddwl y byd o Fatty ac yn ffyddlon iawn iddo. Mae'n 13 mlwydd oed yn y llyfr Mystery Of the Spiteful Letters[2]
- Laurence (Larry) Daykin - yr hynaf o'r pump ac arweinydd gwreiddiol y Five Find-Outers, gan basio'r rôl i Fatty ar ddechrau'r trydydd llyfr. Weithiau mae Larry yn cael ei gythruddo gan frolio Fatty. Ef yw brawd hŷn Daisy. Ef yw'r cymeriad cyntaf i gael ei gyflwyno yn y gyfres, ond mae'n cael ei ddatblygu gryn dipyn yn llai na'r prif gymeriadau eraill wrth i'r gyfres barhau. Fel yr hynaf o'r Five Find Outers, mae'n 14 oed ar gychwyn y gyfres.
- Margaret (Daisy) Daykin - chwaer iau Larry. Syniad Daisy oedd creu'r Darganfyddwr. Mae hi'n arbennig o dda am feddwl am gynlluniau a syniadau. Mae hi'n iau na Larry o flwyddyn a'r un oed â Pip a Fatty.
- Philip (Pip) Hilton - yr un oed â Daisy ac ychydig flynyddoedd yn hŷn na Bets, ei chwaer iau sy'n cael ei phryfocio'n aml ganddo. Mewn cyferbyniad â rhieni eithaf hamddenol Fatty, mae Mr a Mrs Hilton yn eithaf llym ac yn aml yn mynegi eu gwrthwynebiad i weithgareddau ymchwilio i ddirgelion Pip a Bets. Maent yn dymuno y byddai Pip, yn arbennig, yn rhoi'r un faint o egni at waith ysgol. Yn The Mystery of the Hidden House mae Mr a Mrs Hilton yn gwahardd Pip a Bets rhag cymryd rhan mewn dirgelion, ond mae'r plant yn dal i gael eu hunain yng nghanol un. Mae'n 13 oed, gan awgrymu ei fod 4 blynedd yn hŷn na'i chwaer fach.
- Elizabeth (Bets) Hilton - chwaer iau Pip, a'r ieuengaf o'r Darganfyddwr. Mae hi'n addoli ac yn edmygu Fatty fel arwr ac mae'n hoff iawn ohoni. Er yr ieuengaf, mae Bets caredig yn profi ei bod yn aelod teilwng o'r criw. Mae hi'n sylwgar iawn, gan ddarparu syniadau hanfodol sy'n helpu Fatty i ddatrys rhai o'r dirgelion mwyaf dyrys
- Buster - daeargi Albanaidd Fatty. Yn wreiddiol, dim ond oherwydd Buster gwnaeth Larry, Pip, a Daisy adael i Fatty ymuno â chlwb y ditectifs.
Heddlu
golygu- Theophilus Goon - plismon y pentref, sy'n cael ei drechu gan y pum plentyn ym mhob stori. Byddai Mr Goon wrth ei fodd cael dyrchafiad, ond mae'n ystyried bod y plant yn ei rwystro yn hytrach na'i helpu. O weld y plant yn ymchwilio mae'n aml yn gweidd "Clear Orf"' atynt. O ganlyniad, mae'r plant wedi rhoi'r llysenw "Clear-Orf" iddo. Pryd bynnag y bydd yn ofidus neu'n rhwystredig, mae Mr Goon yn gweiddi'n gyson, "Gah!" gan achosi llawer o ddifyrrwch ymhlith y plant. Yn yr ail lyfr, The Mystery of the Disappearing Cat, ac am amser hir wedi hynny, mae'r plant yn gosod cliwiau ffug i Mr Goon er mwyn ei gamarwain fel y gallant ddatrys y dirgelwch yn gyntaf heb orfod goddef ag ef ymyrryd yn eu hymchwiliadau.
- Arolygydd Jenks - a elwir hefyd yn Brif Arolygydd ac Uwch-arolygydd. Ef yw pennaeth yr adran heddlu lleol. Oherwydd bod Mr Goon yn digio’r Pump, mae’r plant bob amser yn ffonio neu’n cwrdd â’r Arolygydd pan fyddant wedi datrys dirgelwch. Yn ystod y llyfrau mae'n dod yn ffrind mawr i'r plant. Mae'n dod yn gyfarwydd â'r Five Find-Outers ar hap yn llyfr cyntaf y gyfres The Mystery of the Burnt Cottage, wrth bysgota. Mae'n edmygu'r plant, yn enwedig Fatty, er mawr siom i Mr Goon, ac mae'n amlwg yn awgrymu yr hoffai Fatty ddod yn heddwas pan fydd wedi tyfu i fyny.
- PC Pippin - Yn ystod The Mystery of the Pantomime Cat , mae PC Pippin yn cymryd yr awenau am gyfnod byr tra bod Goon yn mynd ar wyliau ac yn gyfrinachol yn helpu'r plant i ddatrys y dirgelwch. Er mawr lawenydd i'r plant, mae PC Pippin yn ddyn neis ac nid yw'n hoff o Mr Goon, sydd yn ei dro yn ei gasáu.
- PC Kenton - Yn ystod The Mystery of the Strange Bundle, sonnir am PC Kenton ychydig o weithiau ac mae'n helpu Mr Goon i ddod o hyd i fochyn dychmygol, ci a dyn oedd ar ôl ei fodryb.
- Mae PC Tonks yn ymddangos ar ddechrau The Mystery of the Invisible Thief tra bod Goon ar gwrs gloywi. Mae'n dweud wrth Fatty na allai unrhyw drosedd digwydd mewn tref dawel fel Peterswood.
- Mae PC Johns yn ymddangos yn The Mystery of Tally Ho Cottage lle mae ef a Goon yn dal Fatty yn ysbïo ar Tally Ho Cottage yng nghanol y nos dra eu bod nhw hefyd yn gwylio'r tŷ eu hunain. Maen Ern yn canfod y ddau heddwas yn y bore wedi eu cloi yn ystafell y boiler.
Man gymeriadau
golygu- Ernest (Ern) Goon - nai Mr Goon. Cyflwynir Ern yn y llyfr The Mystery of the Hidden House. Mae Ern yn hoff iawn o gynhyrchu barddoniaeth, ond mae'n cael trafferth i ddarfod cerdd ac mae'n gofyn i Fatty rhoi cymorth iddo. Dyna un o'r rhesymau ei fod yn edmygydd mawr o Fatty. Gellid ystyried bod Ern yn seithfed aelod answyddogol o'r grŵp. Mae'r llyfrau yn tanlinellu agweddau Blyton at ddosbarth cymdeithasol yn eu triniaeth o Ern. Ee Ni chaniateir i Ern fwyta cinio gyda'r plant eraill, mae'n bwyta yn y gegin gyda'r Cogydd.
- Miss Trimble - cydymaith Arglwyddes Candling. Mae'r plant yn ei galw hi'n Miss Tremble, oherwydd mae hi'n ofni popeth. Mae ei sbectol yn aml yn cwympo i ffwrdd ac mae Bets wrth ei bodd yn cyfrif pa mor aml mae hyn yn digwydd, er mawr boendod i Miss Trimble. Yn ymddangos gyntaf yn The Mystery of the Disappearing Cat, mae hi'n ailymddangos yn The Mystery of the Spiteful Letters, pan fydd y plant yn ei holi am y teithwyr rheolaidd ar y bws 10:15 dydd Llun i Sheepsale.
- Miss Harmer - Y person sy'n gofalu am gathod Arglwyddes Candling yn The Mystery of the Disappearing Cat.
- Gladys - morwyn Pip a Bets yn The Mystery of the Spiteful Letters .
- Mr a Mrs Hilton - Rhieni Pip a Bets, maent yn rhieni llym iawn ac yn cefnogi Mr Goon yn ei ymgais i rwystro'r plant rhag ceisio datrys troseddau.
- Sid a Perce Goon (Sidney a Percy) - efeilliaid iau Ern. Fe wnaethant ymddangos yn The Mystery of the Vanished Prince pan aethant i wersylla gydag Ern.
- Mrs Moon - Cogydd y teulu Hilton yn ystod The Mystery of the Spiteful Letters.
- Hilary - Merch bedydd yr Arolygydd Jenks, mae ei chartref (Norton House) yn cael ei fwrglera yn ystod The Mystery of the Invisible Thief.
- Luke - Help y garddwr drws nesaf i Pip and Bets yn The Mystery of the Disappearing Cat.
- Mrs Trotteville - Hi yw mam Fatty ac mae Fatty yn meddwl y byd o honni. Mae hi'n drugarog iawn ag ef. Yn wahanol i'r Mr a Mrs Hilton nid yw hi'n cymryd Mr Goon o ddifrif ac mae hyd yn oed yn ei ystyried yn niwsans.
- Mae'r Postmon Ymddangos mewn sawl stori. Mae'r pump yn cael rhywfaint o help ganddo pob tro.
Llinell Amser
golyguAr ddechrau'r gyfres mae Larry yn 13, mae Fatty, Pip a Daisy yn 12, tra bod Bets yn 8. Mae Bets yn mynd i'r ysgol ddydd, ond mae'r lleill i gyd yn mynd i ysgolion preswyl. Mae'r gyfres yn digwydd yn ystod y gwyliau ysgol, pan fo'r plant hŷn yn dychwelyd adref o'u hysgolion preswyl.
Y 15 llyfr yn y gyfres yw:
- The Mystery of the Burnt Cottage (1943)
- The Mystery of the Disappearing Cat (1944)
- The Mystery of the Secret Room (1945)
- The Mystery of the Spiteful Letters (1946)
- The Mystery of the Missing Necklace (1947)
- The Mystery of the Hidden House (1948)
- The Mystery of the Pantomime Cat (1949)
- The Mystery of the Invisible Thief (1950)
- The Mystery of the Vanished Prince (1951)
- The Mystery of the Strange Bundle (1952)
- The Mystery of Holly Lane (1953)
- The Mystery of Tally-Ho Cottage (1954)
- The Mystery of the Missing Man (1956)
- The Mystery of the Strange Messages (1957)
- The Mystery of Banshee Towers (1961)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Five Find-Outers Mystery Series by Enid Blyton". www.enidblytonsociety.co.uk. Cyrchwyd 14 Ionawr 2020.
- ↑ Flood, Alison (8 Mai 2009). "Enid Blyton's Fatty gets a 21st-century makeover". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 14 Ionawr 2020.