Enid Blyton
Roedd Enid Mary Blyton (11 Awst 1897 – 28 Tachwedd 1968) yn un o awduron llyfrau i blant mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig. Cawsai ei hadnabod fel Enid Blyton ac fel Mary Pollock. Cafodd ei disgrifio unwaith fel "one-woman fiction machine", ac mae'n enwog am ei nifer o gyfresi o lyfrau yn seiliedig ar yr un criw o gymeriadau. Cafodd Blyton lwyddiant mawr ledled y byd, a gwerthodd 400 miliwn o gopïau. Blyton yw'r chweched awdur mwyaf poblogaidd ledled y byd erios; yn ôl Translationum Mynegai UNESCO, roedd 3,400 o gyfieithiadau o'i llyfrau ar gael yn 2007. Mae ei gwerthiant tu ôl Lenin a Shakespeare.
Enid Blyton | |
---|---|
Ffugenw | Enid Blyton |
Ganwyd | Enid Mary Blyton 11 Awst 1897 Llundain, East Dulwich |
Bu farw | 28 Tachwedd 1968 Llundain, Hampstead |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, bardd, athro ysgol, awdur plant, sgriptiwr, athro |
Adnabyddus am | The Famous Five (cyfres o nofelau), The Secret Seven, Child Whispers, The Enid Blyton Adventure Series, The Enchanted Wood, The Naughtiest Girl in the School, The Naughtiest Girl Again, The Adventurous Four, The Twins at St. Clare's, Five on a Treasure Island, Five on Finniston Farm, Five on Kirrin Island Again, Five on a Hike Together, Five on a Secret Trail, The Magic Faraway Tree, The Land of Far-Beyond, The O'Sullivan Twins, The Mystery of the Burnt Cottage, Summer Term at St. Clare's, Five Run Away Together, The Island of Adventure, The Mystery of the Disappearing Cat, The Second Form at St. Clare's, Claudine at St.Clare's, Fifth Formers of St. Clare's, Five Go to Smuggler's Top, The Mystery of the Secret Room, The Naughtiest Girl is a Monitor, The Castle of Adventure, First Term at Malory Towers, Five Go Off in a Caravan, The Folk of the Faraway Tree, The Mystery of the Spiteful Letters, The Mystery of the Missing Necklace, The Valley of Adventure, Five Go Off to Camp, The Mystery of the Hidden House, Third Year at Malory Towers, Five Get Into Trouble, The Mystery of the Pantomime Cat, Five Fall Into Adventure, The Mystery of the Invisible Thief, The Mystery of the Vanished Prince, Five Have a Wonderful Time, The Mystery of the Strange Bundle, Five Go Down to the Sea, The Mystery of Holly Lane, Five Go to Mystery Moor, The Mystery of Tally-Ho Cottage, The Mystery of the Missing Man, Five Go to Billycock Hill, The Mystery of the Strange Messages, Five Get into a Fix, Five Have a Mystery to Solve, Five Are Together Again, Noddy |
Arddull | llenyddiaeth plant |
Priod | Hugh Alexander Pollock, Kenneth Fraser Darrell Waters |
Plant | Gillian Baverstock, Imogen Smallwood |
Gwefan | https://enidblytonsociety.co.uk |
Bywyd
golyguCafodd Blyton ei geni yn East Dulwich, Llundain, yn ferch i'r gwerthwr Thomas Carey Blyton (1870–1920) a'i wraig Theresa Mary (née Harrison; 1874–1950). Gaeth hi dau frawd, Hanly (1899–1983) a Carey (1902–1976). Cafodd Enid ei addysg yn yr ysgol Sant Christopher, Beckenham.
Llyfryddiaeth
golyguUn o'i chymeriadau amlycaf oedd Nodi, a grëwyd ar gyfer plant a oedd yn dysgu i ddarllen. Fodd bynnag, ei chryfder pennaf oedd nofelau ar gyfer darllenwyr ifanc, lle gallai plant ddarllen am yr anturiaethau heb lawer o gymorth wrth oedolion. Y cyfresi mwyaf llwyddiannus yn y genre hwn oedd The Famous Five (21 nofel rhwng 1942-1963, a soniai am bedwar o blant a'u ci), y Five Find-Outers and Dog, (15 nofel, 1943-1961, lle byddai pump o blant yn achub y blaen ar yr heddlu) yn ogystal â The Secret Seven (15 nofel, 1949 – 1963, cymdeithas o saith o blant a oedd yn datrys amrywiaeth o ddirgelion). Mae ei gwaith yn cynnwys storïau antur, ffantasi ac weithiau hud a lledrith. Roedd ei llyfrau yn hynod boblogaidd ym Mhrydain, Malta, India, Pacistan, Seland Newydd, Sri Lanca, Singapôr ac Awstralia; mae ganddi gyfieithiadau yn yr hen Iwgoslafia, Siapan a ledled y byd. Cyfieithwyd ei gwaith i bron 90 o ieithoedd. Cyfieithwyd rhai o'i straeon byr i'r Gymraeg yng Nghyfresi'r Pump Prysur, Byd y Goeden Ffwrdd â Ni a'r Saith Selog.