The Sanctuary Sparrow
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw The Sanctuary Sparrow ("Aderyn Bach y Cysegr") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1983. Dyma'r seithfed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1983 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Rhagflaenwyd gan | The Virgin in the Ice |
Olynwyd gan | The Devil's Novice |
Cymeriadau | Cadfael |
Mae'r stori yn digwydd dros gyfnod o saith diwrnod ym mis Mai 1140. Yn ystod y gwasanaeth hanner nos yn Abaty Amwythig, lle mae Cadfael yn fynach, mae dyn ifanc yn rhuthro i mewn, yn ceisio nawdd, a thyrfa yn ei ddilyn yn fuan yn ei gyhuddo o ladrata a llofruddiaeth.. Ar ôl gwahanol anturiaethau mae Cadfael yn arddangos diniweidrwydd y dyn.
Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1994.