The Devil's Novice
Nofel Saesneg gan Ellis Peters (ffugenw Edith Pargeter) yw The Devil's Novice ("Nofydd y Diawl") a gyhoeddwyd gyntaf yn 1983. Dyma'r wythfed nofel yn y gyfres am Cadfael, mynach Benedictiad ffuglennol Cymreig a fu’n byw yn ystod y cyfnod o anarchiaeth pan fu brwydro rhwng Stephen a Mathilda am orsedd Lloegr (1138 hyd 1153).
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Edith Pargeter |
Cyhoeddwr | Macmillan Publishers |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1983 |
Genre | ffuglen dirgelwch, nofel drosedd |
Cyfres | The Cadfael Chronicles |
Rhagflaenwyd gan | The Sanctuary Sparrow |
Olynwyd gan | Dead Man's Ransom |
Cymeriadau | Cadfael |
Lleoliad y gwaith | Amwythig |
Ym mis Medi 1140 mae dyn ifanc, mab i arglwydd maenor Aspley, yn cyrraedd Abaty Amwythig, lle mae Cadfael yn fynach, i fod yn nofydd. Mae Cadfael a'r Abad Radulfus yn ceisio deall pam mae'r dyn ifanc cythryblus hwn yn meddwl y dylai fod yn fynach.
Cafodd y llyfr ei addasu ar gyfer teledu yn 1996.