The Surrey with the Fringe on Top
Mae The Surrey with the Fringe on Top yn gân o'r sioe gerdd Oklahoma! a'r ffilm o'r un enw a ysgrifennwyd gan y cyfansoddwr Richard Rodgers a'r libretydd Oscar Hammerstein II.[1]
Cerbyd Surrey
golyguMae cerbyd Surrey yn gert pedwar olwyn, heb ddrysau a ddyfeisiwyd yn Swydd Surrey, Lloegr. Mae'r Surrey yn y ffilm Oklahoma (1955) yn cael ei dynnu gan ddau geffyl. Daeth y cerbyd Surrey yn boblogaidd iawn yn yr Unol Daleithiau yn niwedd y 19 ganrif a dechrau'r 20 ganrif.[2] Roedd gan y cerbyd lle i eistedd pedwar, gyrrwr a chymar yn y tu blaen a dau gyd deithiwr mewn set y tu ôl iddynt. Pan ddyfeisiwyd y car modur defnyddiwyd trefn eistedd y Surrey ar ei gyfer, y drefn sy'n dal i gael ei ddefnyddio mewn y rhan fwyaf o geir hyd heddiw. Roedd modd cael cerbydau Surrey efo nifer o wahanol dopiau, rhai cadarn, rhai ar siâp parasol, rhai oedd modd i'w ymestyn i'w cau ac agor. Roedd gan Surrey Oklahoma! top ar ffurf canopi wedi ei wneud o ddeunydd wedi ei rhidennu ar hyd ei ymylon.
Cyd-destun
golyguThe Surrey with the Fringe on Top yw ail gerdd y sioe. Mae'r prif gymeriad gwrywaidd, Curly, yn gofyn i'w gariad Laurey i fynd i ddawns gydag ef. Mae hi'n gwrthod gan ei bod hi wedi pechu bod Curly wedi aros tan fore'r ddawns cyn gofyn. Er mwyn ceisio cael hi i newid ei meddwl mae Curly yn canu am y cerbyd crand mae o wedi archebu i fynd a hi yno:
- The wheels are yellow, the upholstry's brown
- The dashboard's genuine leather
- With eisenglass curtains you can roll right down
- In case there's a change in the weather
- Two bright side lights winkin' and blinkin'
- Ain't no finer rig I'm a thinkin'
- You can keep your rig if you're thinkin that I'd keer to swap
- Fer that shiny little surrey with the fringe on the top [3]
Mae Laurey yn gwneud hwyl am y syniad o gerbyd crand gan brofocio Curly i ddweud ei fod yn cellwair am y cerbyd ac nad yw'n bodoli. Mae Laurey yn cerdded i ffwrdd, heb sylweddoli bod Curly wedi rhentu'r fath gerbyd mewn gwirionedd.
Ar ddiwedd y sioe mae Laurey a Curly yn ymadael yn y cerbyd gyda rhidens ar ei dop ar gyfer mynd ar eu mis mêl.
Hanes recordio
golyguCafodd y gân ei ganu a'i recordio gyntaf gan Alfred Drake a Joan Roberts ym 1943. Ers hynny mae wedi cael ei recordio gan nifer o artistiaid eraill gan gynnwys Gordon MacRae a Shirley Jones ar gyfer y fersiwn ffilm 1955. Mae hefyd wedi ei recordio gan Doris Day, Frank Sinatra, Ahmad Jamal, Peggy Lee ac Andy Williams ymysg lawer.[4] Mae'r dôn yn arbennig o boblogaidd ymysg cerddorion Jazz [5]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Roden, Timothy; Wright, Craig; Simms, Bryan (17 Ebrill 2009). Anthology for Music in Western Civilization. Cengage Learning. t. 1714. ISBN 1-111-78420-5.
- ↑ Encyclopædia Britannica - Surrey Carriage adalwyd 30 Ionawr 2019
- ↑ Lyrics Reg The Surrey with the Fringe on Top adalwyd 30 Ionawr 2019
- ↑ Amazon Music Surrey With the Fringe On Top adalwyd 30 Ionawr 2019
- ↑ WRTI How "The Surrey with the Fringe on Top" Went from Show Tune to Jazz Standard adalwyd 30 Ionawr 2019