The Talented Mr. Ripley (ffilm)
ffilm ddrama llawn cyffro seicolegol gan Anthony Minghella a gyhoeddwyd yn 1999
(Ailgyfeiriad o The Talented Mr. Ripley)
Mae The Talented Mr. Ripley yn ffilm o 1999 a gyfarwyddwyd gan Anthony Minghella. Mae'r ffilm yn addasiad o'r nofel gan Patricia Highsmith a gyhoeddwyd yn 1955. Cafodd ei ffilmio ym 1960 hefyd o dan yr enw Plein Soleil.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Anthony Minghella |
Cynhyrchydd | William Horberg Tom Sternberg |
Ysgrifennwr | Patricia Highsmith (nofel) Anthony Minghella (sgript) |
Serennu | Matt Damon Jude Law Gwyneth Paltrow Cate Blanchett Philip Seymour Hoffman Jack Davenport |
Cerddoriaeth | Gabriel Yared |
Sinematograffeg | John Seale |
Golygydd | Walter Murch |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures (UDA Miramax Films (pob man arall) |
Amser rhedeg | 139 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Serennodd The Talented Mr. Ripley Matt Damon fel Tom Ripley, Gwyneth Paltrow fel Marge Sherwood, Jude Law fel Dickie Greenleaf, Cate Blanchett fel Meredith Logue (cymeriad a grëwyd ar gyfer y ffilm), Philip Seymour Hoffman fel Freddie Miles, Jack Davenport fel Peter Smith-Kingsley (cymeriad a ddatblygwyd ar gyfer y ffilm) a James Rebhorn fel Herbert Greenleaf.
Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r ffilm yn yr Eidal gyda dinasoedd fel Rhufain a Fenis yn cael eu defnyddio fel cefnlen i'r naratif.