Jude Law
cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Lewisham yn 1972
Mae Jude Law (ganed 29 Rhagfyr 1972) yn actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau o Loegr.
Jude Law | |
---|---|
Ganwyd | David Jude Heyworth Law 29 Rhagfyr 1972 Lewisham |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, cyfarwyddwr ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr teledu |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Tad | Peter Law |
Priod | Sadie Frost, Phillipa Coan |
Partner | Sienna Miller, Ruth Wilson |
Plant | Iris Law, Rafferty Law, Raff Law |
Gwobr/au | chevalier des Arts et des Lettres, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol |
Dechreuodd actio gyda'r Theatr Cerddorol Ieuenctid Cenedlaethol ym 1987, a chafodd ei swydd actio gyntaf ym 1989. Ar ôl iddo serennu mewn ffilmiau wedi'u cyfarwyddo gan Andrew Niccol, Clint Eastwood a David Cronenberg, cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi ym 1999 am yr Actor Cefnogol Gorau yn ffilm Anthony Minghella The Talented Mr. Ripley. Yn 2000, enillodd Wobr BAFTA am yr "Actor Cefnogol Gorau" am ei waith yn y ffilm. Yn 2003, cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei berfformiad yn un o ffilmiau eraill Minghella, Cold Mountain.