The Unbearable Lightness of Being in Aberystwyth
Nofel dditectif Saesneg gan Malcolm Pryce yw The Unbearable Lightness of Being in Aberystwyth a gyhoeddwyd gan Bloomsbury Publishing yn 2005. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1] Mae teitl y nofel hon yn cyfeirio yn chwareus at deitl y cyfieithiad Saesneg (The Unbearable Lightness of Being, 1985) o nofel Tsieceg gan Milan Kundera, a addaswyd yn 1988 fel ffilm.
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Malcolm Pryce |
Cyhoeddwr | Bloomsbury Publishing |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 2005 |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781408800690 |
Genre | Nofel Saesneg |
Cyfres | Louie Knight Mysteries |
Disgrifiad byr
golyguComedi ddu wedi ei lleoli mewn Aberystwyth ffuglennol yn portreadu anturiaethau pellach y ditectif preifat Louie Knight wrth iddo ymchwilio i lofruddiaeth a ddigwyddodd ganrif ynghynt ac i ddiflaniad ei gariad.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 17 Ebrill 2019