Theatr Colwyn
Theatr a sinema yn nhref Bae Colwyn, Sir Conwy yw Theatr Colwyn. Dyma'r sinema hynaf yng ngwledydd Prydain sy'n dal i weithredu. Fe'i lleolir yng nghanol Bae Colwyn, ar Ffordd Abergele. Y perchnogion er 2000 yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae'n cael ei rhedeg fel theatr ar gyfer y gymuned gyfan.
![]() | |
Math | theatr, sinema ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bae Colwyn ![]() |
Sir | Conwy |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.293928°N 3.725017°W ![]() |
Cod OS | SH851788 ![]() |
![]() | |
Codwyd adeilad y theatr yn 1885 ac fe'i defnyddid fel "Neuadd Gyhoeddus" i lwyfanu dramâu a sioeau amrywiol yn ogystal â thrafodaethau, dawnsfeydd a digwyddiadau codi arian. Rhoddwyd trwydded sinema iddi ar 25 Ionawr, 1909. Roedd y ffilmiau cyntaf i'w dangos yn cynnwys Hunting Crocodiles on The Nile a The Naughty Little Princess.[1]
Ceir 379 o seddi yn y theatr ac un sgrîn fawr. Mae pris tocynnau yn isel ac mae'n lle poblogaidd. Yn ôl y rheolwr, Phil Batty,
- "Mae ein cynulleidfa yn hoffi dod i wylio ffilm mewn lleoliad traddodiadol a hefyd maen nhw yn gwerthfawrogi'r ffaith bod ein tocynnau mor fforddiadwy. Mae teulu o bedwar yn gallu gweld ffilm am £12 am 7.30pm, byddai'n anodd iawn i chi guro hynny mewn sinema aml-sgrin."[1]
Cynhelir cyngherddau yn y theatr hefyd. Yn 2009 perfformiodd Cerys Matthews, cyn-leisydd Catatonia yno a bu'r gyngerdd yn llwyddiant mawr.[2]
Noddwr amlycaf Theatr Colwyn yw Terry Jones, y digrifwr, actor, awdur a sgriptiwr a anwyd ym Mae Colwyn ac sy'n enwog fel un o griw Monty Python.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 'Y pictiwrs hynaf sy'n dal i weithredu'[dolen farw]
- ↑ newswales.co.uk
- ↑ Amdanom ni Archifwyd 2010-01-27 yn y Peiriant Wayback, ar wefan Theatr Colwyn.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Theatr Colwyn
- (Saesneg) Ffrindiau Theatr Colwyn Archifwyd 2009-04-24 yn y Peiriant Wayback