Arthur Adamov
Dramodydd Ffrengig a anwyd yn Rwsia oedd Arthur Adamov (23 Awst 1908 - 16 Mawrth 1970). Un o awduron mwyaf amlwg Theatr yr Absẃrd oedd ef.[1][2]
Arthur Adamov | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1908 Kislovodsk |
Bu farw | 15 Mawrth 1970 o gorddos o gyffuriau Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, rhyddieithwr, cyfieithydd, actor, dramodydd radio |
Priod | Jacqueline Autrusseau |
Cefndir
golyguGanwyd Adamov i deulu cyfoethog o Armenia yn Kislovodsk. Pan oedd yn bedair oed, symudodd gyda'i deulu i'r Almaen. Ar ôl cwblhau ei addysg ym Mharis, ymgartrefodd yno ym 1924 a daeth yn rhan o grwpiau swrealaeth, gan olygu eu cylchgrawn Discontinuite ac ysgrifennu barddoniaeth. Ym 1938 cafodd chwalfa nerfol. Mae'r niwrosisau a oedd wedi eu plagio ers plentyndod ac a oedd i lunio'r ysbrydoliaeth fisâr ar gyfer llawer o'i ddramâu yn cael eu trin yn ei waith cyfaddefol L 'Aveu (1946).[3]
Gwaith
golyguDechreuodd Adamov ysgrifennu ar gyfer y theatr ym 1947. Ceisiodd fynegi unigrwydd a diymadferthedd dyn ac oferedd unrhyw ymgais i chwilio am ystyr bywyd. Yn La Parodie, a berfformiwyd gyntaf yn y 1950au cynnar, mae'r cymeriadau canolog yn peledu ei gilydd gyda chwestiynau am amser, o flaen cefndir o gloc heb ddwylo. Mae L'Invasion (1950), La grande et la petite maneuver (1950), Tous contre sous (1953), a Le Professeur Taranne (1953) yn dehongli mewn delweddau hunllefus creulondeb a phwysau confensiynau cymdeithasol ac yn dangos dylanwad trwm Theatr Greulondeb Antonin Artaud.[4]
Yng nghanol y 1950au trodd Adamov i arddull ddrama fwy gwleidyddol, gan ddechrau gyda'i ddrama fwyaf adnabyddus, Le Ping-Pong (1955). Mae delwedd ganolog y ddrama, peiriant pêl-pin mewn arcêd, yn symbol o'r system gyfalafol lle mae dynion yn barod i chware gêm siawns yn ddiddiwedd yn yr obaith o ennill, er bod ennill yn gwbl ddiwerth. Ar ôl Paolo Paoli (1957) daeth dramâu Adamov yn gynyddol radical: mae Le Printemps 71 (1961) am Gomiwn Paris; La Politique des restes (1963) a Off Limits (1969) yn llawn o bropaganda Marcsaidd.[5]
Marwolaeth
golyguCyflawnodd Adamov hunanladdiad ym 1970. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Cimetière Parisien d'Ivry, Paris.[6]
Teulu
golyguRoedd ei wraig, Jacqueline Autrusseau, yn newyddiadurwr a seicdreiddydd Ffrengig, a anwyd 5 Chwefror, 1922 a bu farw Ionawr 14, 2004 yn Villejuif yn y Val-de-Marne. Hi oedd ysgrifennydd golygyddol y cylchgrawn "Institut français de psychanalyse".
Cyhoeddiadau
golyguHunangofiannau
golygu- L'Aveu (1946) (Y Deillion)
- L'Homme et l'Enfant (1968) (Dyn a Phlentyn)
- Je... ils.. (1969) (Rwy'n ... maen nhw ...)
Dramâu
golygu- Mort chaude (tua 1926) (Marwolaeth boeth)
- La Parodie (1947) (Y Parodi)
- L'Invasion (1949) (Yr Ymosodiad)
- La Grande et la Petite Manœuvre (1950) (Y Symudiad Mawr a man)
- Le Désordre (1951), (Anhrefn) drama radio
- Comme nous avons été (1951) (Fel buom ni)
- Le Sens de la marche (1951) (Ystyr yr orymdaith)
- Tous contre tous (1952) (Pawb yn erbyn popeth)
- Le Professeur Taranne (1953) (Yr Athro Taranne)
- Les Retrouvailles (1953) (Dychwelyd)
- Le Ping-pong (1955)
- Paolo Paoli (1957)
- En fiacre (1959), (Yn y cab) Drama radio
- Les Âmes mortes (1960), (Yr eneidiau Meirwon) addasiad golygfaol o'r nofel gan Nicolas Gogol
- Le Printemps 71 (1961) (Gwanwyn 71)
- La Politique des restes (1962) (Gwleidyddiaeth yr olion)
- Le Temps Vivant (1963), (Yr Amser Byw) drama radio
- Finita la comedia (1964), (Diwedd Comedi) drama radio
- La Sainte Europe (1965) (Ewrop Bendigaid)
- M. le Modéré (1967) (Mr Cymedrol)
- Off Limits (1968)
- Si l'été revenait (1970) (Os daw'r haf yn ôl)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A Dictionary of Twentieth Century Biography, gol. Asa Briggs (Rhydychen, 1993)
- ↑ "Arthur Adamov: Encyclopædia Britannica". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 5 Medi 2018.
- ↑ "Absurdism". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 5 Medi 2018.
- ↑ Albee, Edward, The American Dream, Coward, 1961.
- ↑ Oberon Books - Arthur Adamov Archifwyd 2019-07-07 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 5 Medi 2018
- ↑ Banarjee, R. B., "The Theatre of the Absurd," in Literary Criterion, Vol. 7, No. 1, 1965, pp. 59-62.