Neuadd gerddoriaeth

(Ailgyfeiriad o Neuadd gerdd)

Cyfeiria neuadd gerddoriaeth at fath o adloniant theatraidd Prydeinig a oedd yn boblogaidd rhwng 1850 ac 1960. Roedd yn cynnwys cymysgedd o ganeuon poblogaidd, comedi, perfformiadau arbenigol ac adloniant amrywiol. Daw'r enw o'r math o theatr neu leoliad lle cynhaliwyd y fath adloniant. Roedd neuaddau cerdd ym Mhrydain yn debyg i vaudeville Americanaidd, gyda chaneuon cynhyrfus a pherfformiadau comig, tra yng Ngwledydd Prydain, cyfeiria'r term "vaudeville"' at adloniant mwy dosbarth gweithiol a fyddai wedi cael ei ystyried yn "fwrlesg" yn America.

Neuadd Gerddoriaeth Rhydychen, tua 1875

Ar ôl dechrau ym mariau salŵn tafarnau yn ystod yr 1830s, cynyddodd poblogrwydd adloniant neuaddau cerddoriaeth i'r fath raddau nes i'r tafarnau gael eu dymchwel yn ystod y 1850au er mwyn i neuaddau cerddoriaeth gymryd eu lle. Cynlluniwyd y neuaddau hyn er mwyn galluogi pobl i fwyta, yfed alcohol ac ysmygu tybaco yn y theatr tra bod yr adloniant yn mynd yn ei flaen. Roedd hyn yn whanaol iawn i theatrau confensiynol, lle'r arferai'r gynulleidfa eistedd mewn rhesi, gyda bar ar wahan. Ymysg y neuaddau cerddoriaeth cynharaf oedd Neuadd Gerddoriaeth Caergaint yn Lambeth a The Middlesex, yn Drury Lane, a alwyd yn The Old Mo.

Erbyn canol y 19g, gwelwyd yr angen am ganeuon newydd a phoblogaidd. O ganlyniad, cyflogwyd cyfansoddwyr proffesiynol i ddarparu cerddoriaeth ar gyfer amrywiaeth o berfformwyr yn cynnwys Marie Lloyd, Dan Leno, Little Tich a George Leybourne. Nid oedd y neuaddau cerddoriaeth wedi mabwysiadu ei arddull gerddorol ei hun. Yn hytrach, perfformiwyd bob math o adloniant: dynwaredwyr gwrywaidd a benywaidd, artistiaid meim, dynwaredwyr, perfformwyr trampolin, a phianyddion comig megis John Orlando Parry a George Grossmith i enwi ychydig yn unig.

Yn 1907 yn Llundain, gwelwyd gwrthdaro diwydiannol ar y sîn neuaddau cerddoriaeth wrth i artistiaid a gweithwyr cefn llwyfan anghytuno â rheolwyr y theatrau. Arweiniodd hyn at weithredu diwydiannol. Roedd y neuaddau wedi dychwelyd i'w trefn arferol erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'u defnyddiwyd i gynnal digwyddiadau elusennol fel rhan o'r ymdrech rhyfel. Parhaodd adloniant y neuaddau cerddoriaeth ar ôl y rhyfel, ond daethant yn llai poblogaidd yn sgîl perfformwyr Jazz, Swing, a Band Mawr. Newidiwyd y rheolau trwyddedu hefyd a gwaharddwyd yfed alcohol yn y theatrau eu hunain. Cynyddodd poblogrwydd adloniant amrywiol, a methodd nifer o berfformwyr y neuaddau cerddoriaeth i addasu eu perfformiadau. Ystyriwyd perfformiadau'r neuaddau cerddoriaeth yn hen ffasiwn, ac wrth i nifer o'r neuaddau gau, daeth adloniant y neuaddau cerddoriaeth i ben a dechreuodd adloniant amrywiol modern.

Neuaddau Cerdd yng Nghymru golygu