Theo van Doesburg

arlunydd, pensaer sefydlydd Da Stijl

Roedd Theo van Doesburg (Utrecht, 30 Awst 30 1883 - Davos, 7 Mawrth 1931) yn arlunydd o'r Iseldiroedd oedd yn mynedgu ei hun wrth baentio, beirniadaeth, barddoniaeth a phensaernïaeth. Daeth yn adnabyddus fel sylfaenydd ac arweinydd y grŵp celf Avant-garde, De Stijl yn ystod ac wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf[1].

Theo van Doesburg
Composition décentralisée gan Theo van Doesburg, 1924, Solomon R. Guggenheim Museum, Efrog Newydd, cymynrodd Richard S. Zeisler, 2007
Adluniad o neuadd ddawns/sinema “Cinébal” yn yr Aubette in Strasbourg gan van Doesburg.

Ganed Theo van Doesburg, fel Christiaan Emil Marie Küpper yn fab i'r ffotograffydd Wilhelm Küpper a Henriette Catherine Margadant. Ond roedd wastad yn ystyried ei lysdad, Theodorus Doesburg, fel ei dad go-iawn ac felly arddelodd yr enw hwnnw, gan ychwanegu 'van' yn hwyrach ymlaen ac arwyddo ei baentiadau cynnar felly. Roedd ei arddangosfa gyntaf ym 1908. Ar ddechrau ei waith artistig, copïodd baentiadau'r 'Hen Meistri' o'r Rijksmuseum ac ysgrifennodd feirniadaeth gelf ar gyfer cylchgronau.

Mudiad De Stijl

golygu

Yn 1915, bu'n rhaid idd adolyg gwaith Piet Mondrian, a oedd yn wyth mlwydd oed yn hŷn nag ef. Gwnaeth paentiadau Mondrian (a fedyddwyd yn Mondriaan ond a newidiodd sillafiad ei gyfenw pan oedd yn byw ym Mharis argraff arno yn y ffordd yr oeddynt yn echdyniad (obsraction) cyflawn o realiti. Yn fuan wedi'r arddangosfa, daeth van Doesburg i gysylltiad â Mondrian, a chyda artistiaid agos, Bart van der Leck, Anthony Kok, Vilmos Huszar a JJP Oud, sefydlwyd mudiad De Stijl ar y cyd yn 1917. Er bod gan De Stijl lawer o aelodau, van Doesburg oedd llysgennad y mudiad, gan ei hyrwyddo ledled Ewrop. Yn 1922 symudodd van Doesburg i ddinas Weimar yn Yr Almaen oedd, ar y pryd, yn ganolbwynt celf a phensaernïaeth y mudiad Bauhaus. Symudodd yno er mwyn bod yn agosach at sylfaenydd a chyfarwyddwr Bauhaus, Walter Gropius. Gwrthododd Gropius wneud van Doesburg yn ddarlithydd yn yr ysgol, felly penderfynodd van Doesburg ymsefydlu'n annibynnol â Bauhaus a cheisiodd ddenu myfyrwyr Bauhaus am syniadau Lluniadaeth, (Constructivism), Dada a De Stijl.

Ymbellhau oddi ar Mondrian

golygu

Yn ystod ei gyfnod yn yr Almaen, daliodd van Doesburg ei gyfeillgarwch agos â Mondrian trwy lythyru. Yn 1923, ag yntau wedi priodi â Nelly van Doesburg, symudodd van Doesburg i Baris gan ail-gydio yn y berthynas gelfyddydol dwys. Ond achosodd gwahaniaethau cymeriad mewnblyg Mondrian ac allblyd van Doesburg straen ar ei perthynas. Ceir sôn, er bod hynny yn cael ei wadu erbyn hyn, fod rhwng gelfyddydol rhwng y ddau ar gwestiwn o'r defnydd o'r croeslin (diagonal) mewn darluniau. Roedd van Doesburg o blaen y linell ond Mondrian yn ei erbyn gan fynnu mai dim ond llinellau lloreddol a fertigol oedd yn wir natur daliadau De Stijl. Ni bu cysylltiad rhwng y ddau artits enwog nes iddynt gwrdd ar hap mewn caffi ym Mharis yn 1929.

Pensaernïaeth, dylunio a theipograffeg

golygu
 
Architeip van Doesburg

Ymdrinodd van Doesburg â meysydd eraill yn ogystal ag arlunio. Bu'n hyrwyddo a datblygu daliadau De Stijl, mewn pensaernïaeth, wedi gadael marc y tu ôl i ddyluniad artistiaid yn y cartref, ynghyd â Georges Vantongerloo. Efallai ei waith enwocaf oedd addurno mewnol Caffi Aubette yn Strasbourg. Ynghyd ag El Lissitzkym a Kurt Schwitters, roedd van Doesburg yn arloeswr wrth fewnoli celfyddyd trwy gyngresau a gynhaliwyd yn 1922 yn Düsseldorf a Weimar.

Dyluniodd van Doesburg ffont geometrig ar gyfer y wyddor. Adnebir y teipograffeg hwn bellach Architype van Doesburg. Mae'r typograffeg hwn yn ddisgwyliad o rhagdybio arbrawf tebyg iawn gan Kurt Schwitters a'i deipio (typograffi) gan Architype Schwitters. Mae'r teip dal i edrych yn hynod gyfoes ac yn debyg i'r teip a ddefnyddiwyd ar gyfrifiaduron a gemau cyfrifiadurol ar ddiwedd y 20g.

Roedd Van Doesburg yn gysylltiedig â'r mudiad artistig Dada, gan gyhoeddi'r cylchgrawn DADA Holland dan ffugenw IK Bons (yn fwyaf tebygol o anagramau Ik ben zot, Iseldireg am "Rwy'n Wirion"). Cyhoeddodd hefyd farddoniaeth Dada, o dan yr un enw yn De Stijl. Wrth ysgrifennu testunau rhyddiaith, fe'i llofnodwyd gan y ffugenw Aldo Camini. Yn ei waith llenyddol roedd yn arddel syniadau oedd yn gwrthwynebu unigoliaeth yn gryf (a symudiadau a oedd yn hyrwyddo realiti a seicoleg mewddwl). Ei gred oedd mai profiad ar y cyd oedd gwir realiti. Roedd ei gysyniad o ddwysedd yn llawer mwy cyffredin â chysyniad Paul van Ostaijensen o ddeinamef. Ceisiodd alinio geiriau deinamig fel y buasant yn arddel ystyr newydd. Drwy wneud hyn, fe geisiodd greu realiti newydd yn hytrach na'i ddisgrifio.

Ei flwyddyn olaf

golygu

Roedd Van Doesburg yn weithgar mewn grwpiau celf megis; Cercle et Carré, Art Concret a Abstraction-Creation, a sefydlodd ym 1931. Yn 1931 wrth i'w iechyd ddirywio symudodd i Davos yn Y Swistir ac yn fuan wdyn bu farw gan drawiad ar y galon. Ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddodd ei weddw, Nelly van Doesburg, y rhifyn diweddaraf o De Stijl.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Baljeu, Joos. Theo van Doesburg. Studio Vista: 1974, ISBN 0-289-70358-1.
  • Hoek, Els, Marleen Blokhuis, Ingrid Goovaerts, Natalie Kamphuys, et al. Theo Van Doesburg: Oeuvre Catalogus. Centraal Museum: 2000. ISBN 90-6868-255-5.
  • Overy, Paul. De Stijl. Studio Vista: 1969. ISBN 0-289-79622-9.
  • White, Michael: De Stijl and Dutch modernism. Manchester University Press: 2003. ISBN 0-7190-6162-8.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.tate.org.uk/art/art-terms/d/de-stijl